Mae’r golwr Gerhard Tremmel wedi ail-ymuno â Chlwb Pêl-droed Abertawe ychydig fisoedd wedi iddo adael y clwb.

Mae’r Almaenwr 36 oed wedi arwyddo cytundeb a fydd yn ei gadw yn Stadiwm Liberty am ddwy flynedd.

Daeth ei gytundeb blaenorol i ben ddiwedd y tymor diwethaf ac roedd nifer o glybiau yn Lloegr a’r Almaen wedi dangos diddordeb ynddo.

Roedd Tremmel yn aelod blaenllaw o’r garfan a gododd Gwpan Capital One yn 2013, ac mae’n dychwelyd i gystadlu am grys y golwr yn erbyn Lukasz Fabianski a’r golwr newydd, Kristoffer Nordfeldt.

Dywedodd Tremmel: “Mae’n wych cael dychwelyd i Abertawe – dyma lle dw i am fod. Mae hwn yn glwb arbennig.

“Roedd gen i opsiynau eraill o du clybiau’r cynghreiriau uchaf yn yr Almaen a Lloegr, ond Abertawe yw fy amgylchfyd gyda fy mhobol.”

Mae Tremmel wedi gwisgo crys y golwr 52 o weithiau ers symud i Abertawe yn 2011, ac mae e wedi treulio’r haf yn ymarfer gyda’r garfan dan 21.