Mae Clwb Criced Morgannwg wedi colli pwyntiau ac wedi cael dirwy sylweddol am fod â llain beryglus yng Nghaerdydd.

Daeth y chwaraewyr oddi ar y cae yn ystod gornest 50 pelawd yn erbyn Swydd Hampshire yng Nghwpan Royal London fis diwethaf.

Mae Swydd Hampshire wedi derbyn un pwynt, tra bod dau bwynt wedi cael eu tynnu oddi ar y Cymry am y gystadleuaeth eleni.

Maen nhw hefyd wedi cael dirwy o £9,000 – gyda £5,000 wedi’i ohirio.

Roedd Morgannwg wedi dechrau’r gystadleuaeth ar -2 y tymor hwn oherwydd cyflwr y llain y tymor diwethaf.

Mae Morgannwg bellach yn wythfed yn y tabl gyda dwy ornest i’w chwarae.

Mae ymchwiliad mewnol Morgannwg yn parhau.