Mae clwb pel-droed Motherwell wedi arwyddo chwaraewr canol cae Cymru Jake Taylor ar fenthyg o Reading.

Mae’r chwaraewr 23 mlwydd oed wedi gwneud 23 o ymddangosiadau i Reading ac mae wedi cael cyfnodau ar fenthyciad yn Aldershot, Exeter, Cheltenham, Crawley a Leyton Orient.

Mae Jake Taylor hefyd wedi ennill un cap i Gymru ac mae wedi ymuno â Motherwell am weddill y tymor, er bod opsiwn iddo ddychwelyd i Reading ym mis Ionawr.

Gyda Stephen Pearson allan gydag anaf i’w ben-glin, gallai Jake Taylor yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Hearts ddydd Mercher.

Dywedodd Jake Taylor ar wefan Motherwell ei fod yn “teimlo’n ffit ac yn barod i fynd.”