Mae hyfforddwr Real Madrid, Zinedine Zidane, wedi dweud bod Gareth Bale wedi dewis peidio â bod yn rhan o’r gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Manchester City heno (dydd Gwener 7 Awst).
Mae Bale wedi ei roi o’r neilltu bron yn gyfan gwbl yn y Bernabeu, ac nid yw wedi chwarae fawr ddim yn ddiweddar wrth i Real Madrid ennill La Liga.
Fe’i hepgorwyd yn llwyr o daith Real ar gyfer ail gymal rownd yr 16 olaf yn Stadiwm Etihad gan ysgogi mwy fyth o ddyfalu am ei ddyfodol.
Ond mae Zidane yn dweud mai dewis y chwaraewr ei hun oedd hyn.
Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg, dywedodd Zidane: “Roedd yn sgwrs bersonol a gefais gydag ef. Roedd yn well ganddo beidio â chwarae. Bydd gweddill y sgwrs yn aros rhwng fi a fe ond dywedodd nad oedd eisiau chwarae. ”
Cafodd Zidane ei bwyso ymhellach ar y mater ond gwrthododd ymhelaethu.
“Atebais o’r blaen i esbonio’r sefyllfa a dydw i ddim eisiau ychwanegu dim byd arall,” meddai. “Mae’r gweddill yn sgwrs breifat rhwng chwaraewr a hyfforddwr. Does dim byd arall i’w ychwanegu. ”
Dim ond dwywaith y mae Bale, sydd wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith ers ymuno â Real yn 2013, wedi chwarae ers i’r tymor ailddechrau yn dilyn egwyl yn sgil Covid-19.
Bu cryn drafod am ei ymddygiad wrth iddo smalio syrthio i gysgu ar y faint yn erbyn Alaves, ac nid oedd yn y garfan o gwbwl ar gyfer gem olaf Real yn La Liga yn Leganes.
Er ei fod wedi ei gysylltu’n gryf â throsglwyddiad i China y llynedd, credir fod ei gyflog yn broblem fawr ac mae ganddo gontract yn y Bernabeu tan 2022.
Pan ofynnwyd iddo a oedd gan Bale ddyfodol gyda Real, dywedodd Zidane: “Dydw i ddim yn gwybod. Mae’n chwaraewr yn Real Madrid nawr. Nid yw hynny wedi newid. Ein chwaraewr ni yw e. Dw i’n parchu hynny a dw i’n ei barchu ef, fel pawb arall.
“Roedd yn well ganddo beidio â chwarae. Dyna’r unig beth y gallaf ei ddweud wrthych. Mae’r gweddill ohonon ni yma, yn paratoi ar gyfer y gêm. Yr unig beth ry’n ni’n canolbwyntio arno yw’r gêm.”