Mae Cymraes ifanc wedi gwella o anafiadau difrifol wedi damwain farchogaeth, nawr yn anelu am y Gemau Paralympaidd.
Fe gafodd Leonie Saffy ei hanafu ychydig wythnosau cyn y cyfnod clo.
Er iddi dorri ei phelfis, ei chlun a’i choes yn y ddamwain, mae bellach yn ôl ar gefn ei cheffyl.
“Dydy’r ddamwain ddim yn fy atal rhag marchogaeth, dw i wedi anafu fy hun lawer gwaith dros y blynyddoedd!” meddai’r cyn-ddisgybl o Ysgol Rhiwabon yn Wrecsam, sydd hefyd yn diodde’ o anhwylder genetig prin o’r enw Syndrom Pterygium Lluosog.
“Mae marchogaeth yn gamp beryglus, ac mae’n rhywbeth y mae rhaid i chi fod yn barod i fentro os ydych chi am gymryd rhan ynddo, yn enwedig ar lefel uwch.
“Mae gen i 20 o sgriwiau a rhodenni yn fy asgwrn cefn, o lawdriniaeth flaenorol oherwydd Syndrom Pterygium Lluosog, felly’r pryder oedd fy mod i wedi torri’r rhoden asgwrn cefn.”
Ar ôl treulio wythnos yn Ysbyty Maelor yn Wrecsam, cafodd Leonie Saffy ddychwelyd adref.
Wythnos nesaf bydd yn derbyn ei chanlyniadau Lefel A.
Mae’n astudio Bioleg, Cemeg a Saesneg yn Wrecsam ac yn bwriadu mynd i astudio Biocemeg ym Mhrifysgol Keele fis Medi.
Er mai ei nod yw dilyn gyrfa mewn Biocemeg, bwriad Leonie Saffy yw parhau i farchogaeth er mwyn cyrraedd ei nod.
“Dw i newydd gyrraedd y sgwad ‘Podium Potential P3‘ ar gyfer Tîm Prydain Fawr a dwi eisiau parhau i farchogaeth er mwyn symud ymlaen i lefel lle dw i’n cystadlu mewn digwyddiadau Ewropeaidd, yna’r Gemau Paralympaidd”, meddai.
“Ysbrydoledig”
Mae Simon Woodward, Pennaeth Chweched Dosbarth Coleg Cambria Iâl lle bu Leonie Saffy yn astudio, wedi ei disgrifio fel person “ysbrydoledig”.
“Mae Leonie wedi gweithio’n anhygoel o galed ac wedi cymryd rhan yn yr Olympiad Bioleg eleni, sy’n dangos i chi faint o ymdrech mae hi wedi’i roi ynddo,” meddai.
“Hyd yn oed ar ôl y ddamwain marchogaeth roedd hi’n benderfynol o barhau, ac mae wedi bod yn hynod ysbrydoledig.
“Rydyn ni’n dymuno pob lwc iddi a does dim amheuaeth y bydd yn llwyddiant mawr fel rhan o Dîm Prydain Fawr ac yn ei gyrfa yn y dyfodol.”