A hithau bron yn dymor newydd, mae paratoadau Clwb Criced Morgannwg wedi hen ddechrau. A pha le gwell i brofi ffitrwydd a doniau’r chwaraewyr na…. chwrs antur Go Ape?! Pwy, meddech chi, oedd y ‘King of the Swingers’?! Oce, dyna ddigon o’r jôcs sâl.
Yng ngwynt Parc Margam, daeth y garfan ynghyd i gael seibiant o’u paratoadau yng Nghaerdydd er mwyn i’r chwaraewyr “gael dringo trwy’r coed fel mwncïod”, meddai’r prif hyfforddwr Toby Radford.
Ar ôl yr hwyl a sbri, mae’r gwaith caled yn parhau wrth i Forgannwg baratoi i herio Swydd Gaerlŷr yn y Bencampwriaeth yn Grace Road ar Ebrill 12. Dywedodd Toby Radford wrth Golwg360 ei fod yn fodlon ar y gwaith gafodd ei wneud ers i’r garfan ddod nôl at ei gilydd.
“Mae’r cyfan wedi mynd yn dda iawn. Ry’n ni yn ein trydedd neu bedwaredd wythnos o ymarfer nawr. Fe ddechreuon ni yn y babell ar y glaswellt tua mis yn ôl, ry’n ni wedi cael cwpwl o gemau, ry’n ni wedi ymarfer ar y llain a heddi, ry’n ni’n cael gwibdaith i’r bois gael dringo trwy’r coed fel mwncïod yma!
“Mae’r babell yn ein galluogi ni i fynd ar y glaswellt yn gynnar iawn. Roedden ni ar laswellt ym mis Chwefror, roedd y bowlwyr yn rhedeg i mewn oddi ar rediadau llawn ac roedd y batwyr yn gallu mynd ar y glaswellt ar ôl gwneud eu gwaith technegol yn y ganolfan dan do yn y gaeaf. Ar y glaswellt ry’ch chi’n chwarae gemau, a does unman gwell i baratoi.”
Chwaraewyr newydd
Ar ôl colli dim llai na chwech o chwaraewyr ddiwedd y tymor diwethaf – gan gynnwys y chwaraewyr profiadol Murray Goodwin, Gareth Rees a Jim Allenby, roedd recriwtio wynebau newydd i’r garfan yn un o brif flaenoriaethau’r clwb. I’r perwyl hwnnw, aeth y clwb ati i arwyddo James Kettleborough o Swydd Northampton, Colin Ingram o Dde Affrica a Craig Meschede ar fenthyg am dymor o Wlad yr Haf. Ac yn ôl Radford, maen nhw eisoes wedi creu argraff.
Mae Kettleborough, sy’n debygol o agor y batio i Forgannwg yn dilyn ymddeoliad Rees, eisoes wedi sgorio 52*, 48 a 48 yn y gemau paratoadol.
“Mae James Kettleborough wedi bod gyda ni ers tri neu bedwar mis erbyn hyn ar ôl symud o Swydd Northampton. Mae e wedi dechrau’n dda, wedi sgorio’n dda ac wedi ffitio i mewn gyda’r chwaraewyr.”
Mae Meschede yntau hefyd wedi dechrau’n addawol, gyda 51 yn erbyn Prifysgol Caerdydd, ond ei fowlio sydd wedi plesio Radford hyd yma.
“Mae e’n edrych fel bowliwr da iawn. Fe ddechreuodd e’r cyfnod paratoi yn dda iawn, wedi ffitio i mewn yn dda ac wedi mwynhau ei hun. Ry’n ni’n hapus gydag ymdrech y chwaraewyr.”
De Affrica
Ynghyd â’r to iau, mae dau ŵr o Dde Affrica yn debygol o gael dylanwad sylweddol ar lwyddiant y Cymry’r tymor hwn. Un o’r rheini yw’r batiwr Colin Ingram, sy’n dod i Gymru’r wythnos nesaf. Ond mae Radford eisoes yn ymwybodol iawn o ba mor ddinistriol all Ingram fod gyda’r bat.
“Dw i’n edrych mlaen at gwrdd â fe. Mae pawb dw i wedi siarad â nhw yn dweud fod Colin Ingram yn foi gwych ac yn amlwg, ry’n ni’n gwybod ei fod e’n chwaraewr o’r radd flaenaf.”
Tra bod Ingram ar drothwy ei dymor cyntaf yng Nghymru, mae ei gydwladwr, Jacques Rudolph yn dychwelyd ac fe fydd ganddo fe gyfrifoldeb ychwanegol y tymor hwn fel capten.
“Bydd Jacques yn dod â llu o brofiad rhyngwladol gydag e fel chwaraewr i Dde Affrica,” meddai Radford. “Mae e wedi bod yn chwaraewr rhagorol yng nghystadlaethau’r siroedd ac mewn criced rhyngwladol. Mae’n uchel ei barch yma ymhlith y chwaraewyr, ac fe wnaeth e ffitio i mewn yn dda tymor diwethaf. O gyfuno’r cyfan, dw i’n credu y gwnaiff e jobyn da.”
Gobeithion am y tymor
Sut mae gwella ar y tymor diwethaf, felly?
“Y peth mawr ry’n ni wedi bod yn trafod yw’r ffaith nad ydyn ni wedi ennill digon o gemau pedwar diwrnod ers tri thymor. Dwi’n credu ein bod ni’n waelod ond un ers tri thymor. Ond ry’n ni’n gwybod ein bod ni’n well na hynny, ry’n ni am fod yn well na hynny.
“Rhan fawr o’n gwaith ni fydd gwella ein safle ni. Wna i ddim sefyll yma nawr a dweud y byddwn ni’n ennill dyrchafiad ond fe allwn ni anelu am y pedwar uchaf, a byddai hynny’n wych.
“Mewn gemau undydd, ry’n ni wedi bod yn gystadleuol iawn. Dim ond dwy flynedd sydd ers i ni gyrraedd ffeinal yn Lord’s. Llynedd, collon ni allan ar Ddiwrnod Ffeinals y T20 o drwch blewyn ac fe chwaraeon ni’n dda mewn gemau 50 pelawd. Dw i’n credu y byddwn ni’n parhau i fod yn gystadleuol mewn gemau undydd, ond fe fydden ni wrth ein bodd pe baen ni’n gwella mewn gemau pedwar diwrnod.”
Gair o gyngor gan Golwg360 i Forgannwg ar gyfer tymor 2015: Dringwch!