Tom O'Sullivan (chwith) a Wes Burns yn dathlu gôl neithiwr (llun: CBDC)
Llwyddodd tîm dan-21 Cymru i goroni wythnos wych o bêl-droed rhyngwladol wrth drechu Bwlgaria 3-1 yng ngêm agoriadol eu hymgyrch Ewro 2017 neithiwr.

Ond roedd y rheolwr, Geraint Williams, yn siomedig na wnaethon nhw’n well fyth ar ôl bod ar y blaen o 3-0 ar yr hanner.

Doedd e erioed wedi teimlo mor siomedig wrth ennill mor hawdd, meddai.

Roedd dwy gôl gan Tom O’Sullivan ac un gan Josh Yorweth yn ddigon i roi Cymru tair gôl ar y blaen ar yr egwyl yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac er i Fwlgaria sgorio yn yr ail hanner fe wnaethon nhw ddal gafael ar y fuddugoliaeth.

Daeth y canlyniad tridiau yn unig ar ôl i dîm cyntaf y dynion sicrhau buddugoliaeth allweddol o 3-0 i ffwrdd o gartref yn Israel yn eu hymgais hwythau i gyrraedd Ewro 2016.

Dechrau da

Cafodd tîm dan-21 Geraint Williams ddechrau da iawn i’w hymgyrch i geisio cyrraedd Ewro 2017 yng Ngwlad Pwyl wrth ennill eu gêm agoriadol neithiwr.

Fe aeth Cymru ar y blaen ar ôl dim ond naw munud ar ôl i Tom O’Sullivan benio croesiad Wes Burns i’r rhwyd.

Dyblwyd y fantais pedwar munud yn ddiweddarach, gyda Burns eto yn gyfrifol am greu’r cyfle i O’Sullivan.

Ar ôl 26 munud roedd hi’n 3-0 wrth i Josh Yorweth benio o gic rydd, ac fe allai O’Sullivan fod wedi cael hat tric cyn yr egwyl.

Doedd Cymru ddim cystal yn yr ail hanner, ac fe lwyddodd Nikola Kolev gipio gôl i’r ymwelwyr, ond felly arhosodd hi tan y chwib olaf.

Bydd tîm dan-21 hefyd yn chwarae Denmarc, Armenia, Rwmania a Luxembourg yn eu hymgais i gyrraedd Ewro 2017.

Tîm dan-21 Cymru: Christian Dibble, Gethin Jones, Declan John, Josh Sheehan, Josh Yorweth, Ryan Hedges, Joseph Wright, Lee Evans, Wes Burns, Tom O’Sullivan, Ellis Harrison

Eilyddion gafodd eu defnyddio: Declan Weeks, Harry Wilson