Ian Gough ar y cae
Mae’r chwaraewr rygbi rhyngwadol, Ian Gough, wedi llwyddo i berswadio llys i wyrdroi penderfyniad achos o ymosod yn ei erbyn.

Fe glywodd gwrandawiad apelio heddiw gan y Cofnodwr Jonathan Davies nad oedd “gobaith rhesymol o ddedfrydu” wedi iddo wrando ar ddeuddydd o dystiolaeth nad oedd wedi’i chlywed mewn llys barn o’r blaen.

Fe gafwydd Ian Gough yn euog y llyned yn Llys Ynadon Croydon, de Lleundain, o afael yn ei gyn-gariad, Sophia Cahill, a’i gwthio yn ei chartre’, ddyddiau’n unig wedi iddi ddyweddio gyda’r canwr, Dane Bowers.