Alun Rhys Chivers sy’n bwrw golwg tafod-yn-y-boch ar rai o’r caneuon Cymraeg fyddai’n addas i greu trac sain yr haf i gefnogwyr criced yng Nghymru.
Rhybudd: Nid barn fy nghyflogwr a geir yn y darn hwn – nid fy marn i yw rhai ohonyn nhw chwaith!
Gyda’r newyddion bod Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i gasgliad o ganeuon sy’n adlewyrchu’r tymor criced, a’r caneuon hynny’n cael eu chwarae drwy gydol cystadleuaeth y T20, dwi wedi bod yn crafu ’mhen i gael dod o hyd i ambell i glasur Cymraeg fyddai’n addas i ni’r Cymry sy’n caru prif gamp yr haf. Dyma’r 12 ddaeth i’r brig:
1. Ffin-landia
Dewis halogol i rai, efallai, i ddechrau gydag emyn. Ond does dim byd gwell yn y T20 na gweld y bêl yn taro’r ffin yn y cyfnod clatsio, a pha well gân na’r emyn hoff i ddathlu cryfder y batwyr.
2. Wiced-Geidwad y Goleudy – Bryn Fôn
Un o’r anthemau mwyaf yn hanes canu pop Cymraeg. Mae’n deyrnged i’r wiced-geidwaid ar draws y wlad, yn enwedig Mark Wallace. Bydd rhai o ornestau’r T20 yn cael eu cynnal o dan y llifoleuadau – gobeithio na fyddan nhw’n fflachio fel goleudy!!
3. Gwraig Dda – Meinir Gwilym
Mae’n siŵr ’mod i’n mynd i gael fy hun i drafferth yn dweud hyn, ond mae angen gwraig amyneddgar ar bob dyn sy’n treulio’r haf yn dilyn hynt a helynt ei dîm.
Mae ’na ddywediad yn Saesneg gan Denis Norden sy’n cyfeirio at y rhai mwyaf diamynedd o blith ‘gweddwon’ criced. “It’s a funny kind of month, October. For the really keen cricket fan, it’s when you realise that your wife left you in May.”
Fel dywed Meinir Gwilym yn y gân hon: “Ti’m yn gofyn, ti’m yn poeni, ti’m yn swnian, ti byth yn holi pam”.
4. Seidr Ddoe (yn troi’n Siampên) – Plethyn
Mae’n draddodiad bellach fod gan raglen Test Match Special eu ‘champagne moment’ yn ystod gemau prawf. Gobeithio y bydd digon o achlysuron y tymor hwn i godi’r gwydryn i lwyddiant Morgannwg a chricedwyr o bob cwr o Gymru.
5. Shwmae Shwmae – Meic Stevens
Cân sy’n fy atgoffa o ’mhlentyndod yn chwarae criced yn yr ysgol gynradd. ‘Shwmae’ yw’r term agosa’ sydd gyda ni yn Gymraeg am ‘howzat’.
6. Un ar ôl Un – Frizbee
Gallai cân Frizbee gyfateb yn Gymraeg i ‘Another One Bites the Dust’ sy’n cael ei chwarae ar hyn o bryd yn y T20 pan fydd wiced yn cwympo – y gân fwya’ poenus pan fydd eich tîm yn batio!
7. Cwm y Prenhelyg – Meic Stevens
Nid gêm y purydd yw’r T20, wrth gwrs, ond mae natur anghonfensiynol y dull hwn o griced yn dechrau denu cynulleidfa newydd i’r gamp – cân Meic Stevens yw’r un i atgoffa pawb o wir ddileit y dull traddodiadol.
8. Noson Ora ‘Rioed – Bryn Fôn
Fyddai’r T20 ddim yr un fath heb wydryn neu ddau o win i’ch twymo ar noson o haf o dan y llifoleuadau. Anthem hefyd i ddathlu niwsans mwya’r gystadleuaeth – y rhai sy’n penderfynu rhedeg yn borcyn ar draws y cae!
Blas y gwin yn plesio, yn plesio fwy nag erioed
Agor potel arall i’n gwneud yn ysgafn ein troed
Ond mi nath ni’n ddau yn boeth, yn ddigon poeth i fod yn noeth.
Dawnsio’n hollol noeth …
9. 93 – Fflur Dafydd a’r Barf
Blwyddyn sydd wedi’i serio ar gof cefnogwyr Morgannwg – blwyddyn ennill y gynghrair undydd yng Nghaergaint.
Mae’r gân hon gan Fflur Dafydd a’r Barf yn fy atgoffa o’r clasur honno gan Bryan Adams, ‘Summer of 69’ – blwyddyn arwyddocaol arall yn hanes Morgannwg.
10. Dros y Ffin – Gwilym Morus
Mae’r gân hon gan Gwilym Morus yn rhannu’i henw gyda phrif nod y batwyr yn y cyfnod clatsio – anelu am y chwe rhediad.
11. Aros Mas yn y Glaw – Coda
Dyma un peth na fydd rhaid i’r cricedwyr ei wneud trwy’r haf – yn wahanol i’r chwaraewyr pêl-droed a rygbi, mae un diferyn o law yn ddigon i godi’r catiau oddi ar y ffyn ac i ddod â’r gorchudd ymlaen – sy’n hunlle i unrhyw gefnogwr criced.
12. Rhwng Bethlehem a’r Goes – Celt
Ie iawn, ocê – ddim cweit. Ond mae angen deuddegfed dyn, on’d oes!
Mae’n siŵr y bydd gennych chi ddarllenwyr Golwg360 un neu ddau awgrym gwell ar gyfer y trac sain – rhowch wybod i ni!
I fynd yn ôl at bwynt gwreiddiol y blog, mae Clwb Criced Morgannwg yn gofyn i gefnogwyr eu helpu i greu trac sain yr haf. Fel rhan o gynllun trwy’r holl siroedd, mae’n fwriad gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr greu rhestr o ganeuon i’w chwarae yn ystod cystadleuaeth y T20 y tymor hwn.
Bydd chwech allan o saith gêm gartref Morgannwg yn y gystadleuaeth yn cael eu cynnal ar nos Wener, ac maen nhw’n gobeithio denu’r tyrfaoedd yn eu miloedd.
Y dyddiad cau i awgrymu caneuon yw 11 Ebrill, ac fe fydd y clwb yn dewis y gân orau ar gyfer rhestr fer.
Bydd y deg uchaf o blith yr holl siroedd yn cael eu cynnwys ar restr o ganeuon Anthemau’r Haf fydd yn cael eu chwarae ym mhob cae trwy’r gystadleuaeth. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 14 Ebrill, gyda’r gystadleuaeth T20 yn dechrau ar 30 Ebrill.
Mae modd trydar awgrymiadau @GlamCricket neu drwy dudalen Facebook y clwb.
Gallwch ddilyn Alun ar Twitter ar @alun_rhys.