Aled Siôn Davies yn derbyn ei fedal aur y llynedd
Torrodd Aled Siôn Davies ddwy record byd arall dros y penwythnos wrth daflu’r siot a’r ddisgen, yn y gystadleuaeth gyntaf iddo gystadlu ynddi eleni.

Yng nghystadleuaeth Academi WeirArcher dros y penwythnos llwyddodd yr athletwr Paralympaidd o Ben-y-Bont i dorri sawl record bersonol yn ogystal â’i ddwy record byd.

Roedd record y ddisgen wedi sefyll ers deuddeg mlynedd, ond gyda thafliad o 48.87 metr chwalodd Aled Siôn Davies hi, a thorri ei record ei hun yn y siot trwy daflu pellter o 14.87 metr.

Mae Davies, sy’n 22 oed, eisoes wedi casglu nifer o fedalau a recordiau dros y blynyddoedd diwethaf.

Yng Ngemau Paralympaidd 2012 enillodd y fedal efydd yn y siot a chipio’r fedal aur yn y ddisgen, gan dorri record Ewropeaidd y ddisgen yn y broses.

Ym Mhencampwriaeth Athletau’r Byd yn Ffrainc yn 2013 aeth ymlaen i ennill dwy fedal aur yn y ddisgen a’r siot, llwyddiant welodd Davies yn cael ei enwebu ar restr fer Personoliaeth Chwaraeon Cymru’r Flwyddyn y llynedd.

Gyda llwyddiant aruthrol ar ddechrau’r flwyddyn fel hyn, mae disgwyl mwy o lwyddiant i Aled Siôn Davies yn ystod y misoedd i ddod, yn enwedig wrth iddo baratoi am gemau’r Gymanwlad yn yr Alban ym mis Gorffennaf.