Jess Fishlock
Bydd tîm merched Cymru pumed yn wynebu’u pumed gêm ragbrofol Cwpan y Byd ddydd Mercher yn erbyn yr Wcráin, wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y twrnamaint yng Nghanada yn 2015.

Ac ar ôl buddugoliaeth ddydd Gwener yn erbyn Twrci maen nhw nawr yn ail yn y tabl y tu ôl i Loegr, wedi ennill tair gêm o bedair, a’r rhagolygon yn dda iawn.

Roedd y fuddugoliaeth dros Dwrci’n un gyfforddus iawn i ferched Cymru gyda’r capten, Jess Fishlock, yn sgorio tair gôl a Sarah Wiltshire yn sgorio un gic gosb yn hanner cyntaf y gêm.

Cafodd Cymru nifer o gyfleoedd pellach i sgorio ac fe ddaeth eu gôl ddiwethaf hanner ffordd drwy ail hanner y gêm gan wneud y sgôr yn 5-0.

Gallai’r gêm fod wedi gorffen ar y sgôr yna’n hawdd oni bai am gôl hwyr yn y munud olaf gan Arzu Karabulut o Dwrci a ddaeth a’r sgôr terfynol i 5-1.

Mae’r Wcráin eisoes wedi ennill y ddwy gêm maen nhw wedi eu chwarae, yn erbyn Twrci o 1-0 a Montenegro o 3-1, gan eu rhoi yn drydydd yn y tabl y tu ôl i Gymru â thri phwynt rhyngddyn nhw. Mae’n ddigon posib, felly, y bydd hon yn gêm agos a phwysig i’r ddau dîm.

Serch hynny, mae merched Cymru bellach wedi maeddu Twrci a threchu Belarus o 1-0 a Montenegro o 3-0. Felly er eu bod nhw wedi colli yn erbyn Lloegr o 2-0 ym mis Hydref y llynedd, mae’r tîm mewn lle da wrth edrych ymlaen at y gêm yn erbyn yr Wcráin yng nghanol yr wythnos ar Barc y Scarlets.