Llwyddodd Pontypridd i gipio buddugoliaeth gwerth chweil yn erbyn Cornish Pirates yn rownd wyth olaf Cwpan Prydain ac Iwerddon dros y penwythnos, gan ennill o 16-14 mewn brwydr galed iawn ar Gae Mennaye.
Prop Ponty Liam Belcher gafodd unig gais y gŵyr o Gymru, ond roedd ei gyfraniad yntau a throed Simon Humberstone yn ddigon i sicrhau canlyniad hanesyddol i Dîm yr Wythnos golwg360.
Ar ddechrau’r gêm y môr-ladron o Gernyw oedd yn edrych fel y tîm cryfaf, wrth i Kieran Hallet drosi dwy gic gosb yn y deg munud cyntaf.
Serch hynny, atebodd Pontypridd drwy ymosod a chreu cyfle i Humberstone ychwanegu pwyntiau i Ponty gyda throsiad.
Fe aeth Pontypridd ymlaen i drosi cic gosb arall gan Humberstone i’w rhoi’n gyfartal, ond tarodd y Pirates yn ôl yn syth gyda chic gosb yn dilyn tacl uchel.
Wrth i’r pwysau godi ar Bontypridd yn eu hanner eu hunain fe aeth pethau o ddrwg i waeth pan welodd Craig Locke y garden felen, ac fe fanteisiodd y tîm cartref wrth i’r wythwr Aaron Carpenter lwyddo i sgorio cais.
Y sgôr ar yr egwyl oedd 14-6 o blaid y tîm o Gernyw.
Y gêm yn troi
Methodd Humberstone gic gosb i Ponty ar ddechrau’r ail hanner wrth i’r tywydd waethygu, cyn i’r gêm droi ar ei ben pan fethodd y Pirates i ddygymod â’r amodau gwael, a Carpenter yn gweld y garden felen.
A chyda hynny fe drodd y gêm o blaid Pontypridd, wrth iddyn nhw ddechrau ymosodiad ffyrnig a arweiniodd at gais gan Belcher a throsiad gan Humberstone i’w rhoi nhw pwynt y tu ôl i’r Pirates.
Erbyn y deg munud olaf dechreuodd y ddau dîm ymladd yn chwyrn am feddiant, a Pontypridd yn ennill digon o dir i Humberstone fedru rhoi cic gosb rhwng y pyst gyda dwy funud i fynd i’w rhoi ar y blaen.
Gyda’r gêm yn dirwyn i ben llwyddodd Pontypridd i aros yn gryf er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth wych sydd nawr yn golygu lle yn y rownd gynderfynol, gartref yn erbyn Leinster A.
Roedd ymateb y capten Dafydd Lockyer i’r gêm yn emosiynol a dweud y lleiaf.
“Mae’n deimlad gwych sicrhau buddugoliaeth mor bwysig i’r clwb,” meddai Lockyer. “Ar ddiwrnod ble’r oedd cymaint yn y fantol, i frwydro ac ennill fel yna, mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael cynrychioli’r clwb yma.”