Joe Ledley
Mae Joe Ledley eisoes wedi gadael Caerdydd unwaith yn ei yrfa, ar ôl symud o’r brifddinas i Celtic bedair blynedd yn ôl, a dydd Sadwrn roedd hi’n ymddangos fel ei fod wedi ffarwelio â nhw am yr eildro.
Chwaraeodd Ledley ran allweddol i Palace wrth iddyn nhw chwalu Caerdydd o 3-0, gan greu’r gôl gyntaf i Jason Puncheon ac yna rhwydo’r ail – canlyniad sy’n golygu bod arhosiad byr Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair mwy na thebyg ar ben.
Dychwelodd Aaron Ramsey i dîm Arsenal ar ôl dros dri mis allan ag anaf – ac er iddo ddangos fflachiau o’i ddoniau yn ei 25 munud ar y cae roedd yn brynhawn trychinebus i’w dîm wrth i Arsenal gael crasfa o 3-0 yn Everton.
Roedd hi’n brynhawn siomedig i Ben Davies ac Ashley Williams hefyd wrth i Abertawe golli 1-0 i Hull, canlyniad sydd yn golygu nad ydyn nhw cweit yn saff eto.
Rhwydodd Gareth Bale ergyd wych o 25 llathen wrth i Real Madrid gadw’r pwysau ar Atletico a Barcelona yn La Liga gyda buddugoliaeth gyfforddus o 4-0 dros Real Sociedad.
Roedd Madrid eisoes 1-0 ar y blaen pan giciodd golwr Sociedad y bêl yn syth i Bale, gyda’r Cymro’n manteisio ar y camgymeriad wrth daro’i ergyd yn syth i’r gôl.
Yn y Bencampwriaeth fe gollodd Charlton o 1-0 yn erbyn Reading i’w cadw nhw mewn perygl o ddisgyn, Rhoys Wiggins, Simon Church a Chris Gunter yn chwarae gemau llawn a Hal Robson-Kanu yn dod ymlaen fel eilydd.
Ond fe lwyddodd Birmingham i godi uwchben Doncaster er mwyn symud i ffwrdd o’r safleoedd gwaelod, gydag Emyr Huws yn gweld ei dîm yn trechu criw David Cotterill 3-1.
Yng ngweddill y gynghrair fe chwaraeodd Jack Collison, Lewin Nyatanga, Jonathan Williams a Steve Morison hefyd.
Ac er na ddaeth Andy King oddi ar y fainc i Gaerlŷr roedd gan y Cymro reswm i ddathlu dros y penwythnos, wrth i’w dîm sicrhau dyrchafiad yn ôl i’r Uwch Gynghrair ar ôl degawd o absenoldeb.
Roedd hi eisoes wedi bod yn wythnos i’w gofio i’r Cymro ar ôl iddo sgorio ganol wythnos i’w dîm – ei 54fed gôl dros Gaerlŷr, sydd yn golygu mai King bellach yw’r chwaraewr canol cae sydd wedi sgorio’r nifer uchaf o goliau yn hanes y clwb!
Yng Nghynghrair Un fe sicrhaodd Tranmere fuddugoliaeth allweddol o 2-1 dros Colchester er mwyn cadw’u hunain uwchben safle’r cwymp, gyda’u Cymry Owain Fôn Williams, Ash Taylor, Jason Koumas a Jake Cassidy i gyd yn dechrau.
Ac fe gymerodd Wolves gam arall tuag at ennill y gynghrair diolch i fuddugoliaeth o 2-0 dros Peterborough, Dave Edwards yn rhwydo’r ail gôl a Sam Ricketts hefyd yn chwarae.
Seren y wythnos: Joe Ledley – perfformiad gwych, a ni ddathlodd chwaith wrth sgorio i selio tynged ei hen glwb.
Siom yr wythnos: Craig Bellamy – Y bai’n disgyn ar nifer o’i gyd-chwaraewyr, ond ymdrechion Bellers i gadw’i dîm yn y gynghrair i’w weld ar ben.