Doedd yna ddim dwr ar gyfer y rhedwyr (Llun: llyfrgell)
Roedd yna anhrefn lwyr ar strydoedd Sheffield y bore yma wrth i drefnwyr hanner marathon ganslo’r ras oherwydd prinder dŵr ar gyfer y rhedwyr.
Roedd 5,000 wedi cofrestru i redeg ac fe wnaeth nifer helaeth benderfynu bwrw ymlaen beth bynnag.
Fe geisiodd Heddlu De Swydd Efrog osod rhwystrau i atal y rhedwr gan ail feddwl a phenderfynu ei bod yn fwy diogel caniatáu iddyn nhw barhau.
Yn ôl trefnwyr y ras wnaeth y cwmni oedd i fod i gyflenwi dŵr ar hyd llwybr y ras ddim troi i fyny’r bore yma. Dywedodd y Cadeirydd Margaret Lilley eu bod wedi mynd i bob archfarchnad yn y ddinas ond wedi methu cael digon o ddŵr er mwyn i’r swyddogion meddygol a diogelwch ddweud ei bod yn ddiogel i fwrw ymlaen.
Yn ôl BBC Radio Sheffield, Toby Spencer o Solihull oedd y cyntaf i groesi’r llinell a dywedodd yn syth mai “dyma’r tro cyntaf a’r tro olaf i mi rasio yma.”