Stadiwm y Mileniwm - cartref Euro 2020? (Llun: llyfrgell)
Mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu cefnogi cais Cymdeiths Pêl-droed Cymru i gynnal pencampwriaeth UEFA yn y brifddinas yn 2020.

Bydd y bencampwriaeth yn 60 oed pryd hynny ac mae UEFA wedi dweud y bydd EURO 2020 yn dwrnamaint ar gyfer ‘y teulu pêl-droed yn Ewrop ac felly ar gael i bawb.’ Golyga hyn y bydd gemau yn cael eu cynnal yn 13 o ddinasoedd ar hyd a lled y cyfandir.

Mae’r Cynghorydd sydd gan gyfrifoldeb am Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant ar Gabinet y Brifddinas yn ffyddiog y bydd y gemau yn dod a llawer o arian i Gaerdydd.

“Pencampwriaethau Ewrop ydi’r trydydd twrnamaint mwyaf yn y byd ar ôl gemau Olympaidd yr haf a Chwpan y Byd FIFA,” meddai’r Cynghorydd Peter Bradbury.

“Buasai cynnal y gemau yn hwb mawr i Gaerdydd. Buasai’r hwb economaidd o tua £40m yn wych ac yn rhywbeth i’w groesawu ond mae’n amhosib mesur y sylw a’r bri byd-eang sydd yn perthyn i’r twrnamaint,’’ ychwanegodd.

Mae gan Stadiwm y Mileniwm le i 75,000 eistedd a 100 o ystafelloedd croeso ac yn ôl y Cynghorydd Bradbury mae hyn yn ei wneud yn lle delfrydol i gynnal digwyddiadau pwysig.

“Rydyn ni wedi profi dro ar ôl tro ein bod yn gallu cynnal rhai o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd fel y Lludw, Cwpanau’r Byd, Pencampwriaethau Bocsio y Byd a gemau terfynol yr FA felly fe fydd hwn yn gais fydd yn sicr o wneud argraff ar UEFA.

“Fe wnawn ni fel Cyngor bopeth yn ein gallu i gefnogi’r cais ac os y byddwn ni’n llwyddianus yna fe wnawn ni gynnal sioe y bydd Cymru gyfan yn falch ohoni.”