Mark Wallace (Llun: Cricinfo)
Bydd capten Morgannwg, Mark Wallace yn ymuno â chriw cymharol fach o gricedwyr heddiw, wrth iddo ymddangos am y ddau ganfed tro yn olynnol i Forgannwg yn y Bencampwriaeth.
Mae gornest Morgannwg yn erbyn Swydd Surrey yn yr Oval yn dechrau heddiw.
Dim ond 29 o chwaraewyr eraill sydd wedi efelychu’r gamp i’w siroedd, a Wallace yw’r pedwerydd o Forgannwg, gan ddilyn Emrys Davies, Haydn Davies ac Arnold Dyson.
Daeth ymddangosiad cyntaf Mark Wallace yn y rhediad o 200 o gemau ym Maidstone yn 2001, er iddo wisgo’r menyg am y tro cyntaf ddwy flynedd cyn hynny.
Y cricedwr diwethaf i gyflawni’r gamp oedd Clive Radley i Middlesex yn 1976.
Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Fe fydd yn gamp hollol ryfeddol gan Mark i chwarae mewn 200 o gemau’n olynnol yn y Bencampwriaeth i Forgannwg.
“Fe fydd hefyd yn dyst i’w gysondeb y tu ôl i’r wiced, lefel ei sgiliau a’i ffitrwydd i fod y chwaraewr cyntaf ers 1976 i gyflawni’r gamp honno.”
Dydy Morgannwg ddim wedi ennill yn y Bencampwriaeth yn yr Oval ers 2001.
Bydd y belen gyntaf yn cael ei bowlio am 11 o’r gloch.
Carfan 12 dyn Morgannwg: Rees, Bragg, Walters, Cooke, Goodwin, Allenby, Wallace (capten, wicedwr), Wagg, Owen, Smith, Hogan, Cosker