Chesterfield 1–1 Casnewydd

Cipiodd Casnewydd bwynt yn erbyn Chesterfield yn Stadiwm Proact brynhawn Sadwrn diolch i gôl hwyr Max Porter.

Roedd Jimmy Ryan wedi rhoi’r tîm sy’n drydydd yn yr Ail Adran ar y blaen ar ddechrau’r ail hanner ond fe rwydodd Porter saith munud o’r diwedd i achub pwynt i’r ymwelwyr o Gymru.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Ryan y tîm cartref ar y blaen mewn steil yn gynnar yn yr ail gyfnod pan gododd y bêl yn gelfydd dros Ian McLoughlin yn  y gôl i Gasnewydd.

Ac roedd hi’n ymddangos fod hynny’n mynd i fod yn ddigon i sicrhau tri phwynt i’r tîm sy’n gobeithio esgyn y tymor hwn ond fe ddwynodd yr Alltudion bwynt yn hwyr yn y gêm pan anelodd Porter ergyd gywir i gefn y rhwyd o ochr y cwrt cosbi.

Mae tîm Justin Edinburgh yn bedwerydd ar ddeg yn nhabl yr Ail Adran yn dilyn y canlyniad hwn, saith pwynt yn glir o’r ddau isaf.

.

Chesterfield

Tîm: Lee, Darikwa, Humphreys, Morsy, Evatt, Cooper, Ryan, Kearns (Hird 72′), Doyle (Richards 77′), O’Shea (Bennett 86′), Roberts

Gôl: Ryan 49’

Cerdyn Melyn: Ryan 88’

.

Casnewydd

Tîm: McLoughlin, Feely, Hughes, Jackson, Yakubu, Flynn, Jeffers (Howe 64′), Porter, Minshull (Naylor 84′), Zebroski (Jolley 64′), Willmott

Gôl: Porter 83’

.

Torf: 5,659