Wrecsam 1–0 Macclesfield

Cafodd Kevin Wilkin ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr Wrecsam wrth i Macclesfield ymweld â’r Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Roedd gôl gynnar Johnny Hunt yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r Dreigiau.

Deuddeg munud yn unig oedd ar y cloc pan wyrodd Hunt ergyd Joe Anyinsah heibio i’r Cymro, Rhys Taylor, yn y gôl i’r ymwelwyr.

Gwnaeth Joslain Mayebi yn dda i atal Daniel Wittaker i gadw Wrecsam ar y blaen yn gynnar yn yr ail gynnar a bu bron i Andy Bishop ymestyn eu mantais yn y pen arall hefyd.

Mae’r Dreigiau’n aros yn yr ail safle ar bymtheg er gwaethaf y fuddugoliaeth ond maent fwy neu lai yn ddiogel bellach, dri phwynt ar ddeg yn glir o safleoedd y gwymp.

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Livesey (Tomassen 60′), Ashton, Artell, Hunt, Keates, Clarke, Carrington, Harris, (Ormerod 83′), Anyinsah (Ogleby 21′), Bishop

Gôl: Hunt 12’

Cardiau Melyn: Harris 27’, Tomassen 75’, Ashton 87’, Mayebi 90’

.

Macclesfield

Tîm: Taylor, Andrew, Halls, Williams, Pilkington, Turnbull, Whitaker, Lewis, Mackreth (Rowe 59′), Boden, Holroyd

Cardiau Melyn: Williams 27’, Halls 66’, Andrew 67’