Aberystwyth 3–1 Treffynnon

Aberystwyth fydd yn herio’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru eleni wedi iddynt drechu Treffynnon yn y rownd gynderfynol ar Barc Latham brynhawn Sadwrn.

Cafodd y tîm o Uwch Gynghrair Cymru eu dychryn gan gôl gynnar Graeme Williams i Dreffynnon, ond fe unionodd Craig Williams i Aber ar ddiwedd yr hanner cyntaf cyn i goliau Chris Venables a Geoff Kellaway ennill y gêm iddynt yn yr ail gyfnod.

Hanner Cyntaf

Roedd y tîm o Gynghrair Undebol y Gogledd Lock Stock ar y blaen wedi dim ond deg munud diolch i gôl Graeme Williams. Derbyniodd y bêl yn ôl ar ôl cymryd cic gornel ei hun cyn canfod y gornel isaf o ongl dynn.

Craig Williams gafodd gyfle cyntaf Aberystwyth wedi hynny ond gwnaeth Danny Stanton arbediad da yn isel i’w dde.

Treffynnon yn hytrach oedd yn cael y cyfleoedd gorau o hyd. Ergydiodd Phil Lloyd ym mhell dros y trawst o chwe llath a chafodd Sam Jones ei atal gydag arbediad da gan Mike Lewis.

Roedd Aber mor siomedig nes i’w rheolwr, Ian Hughes, droi at y fainc cyn yr egwyl hyd yn oed. Daeth Mark Jones i’r cae ac fe ddaeth eu gôl gyntaf yn fuan wedyn pan rwydodd Williams yn dilyn rhediad da Geoff Kellaway ar y chwith.

Ail Hanner

Roedd Aber yn well wedi’r egwyl ond daeth cyfleoedd i Dreffynnon serch hynny. Roedd angen dau arbediad da gan Lewis i atal cyfle dwbl Paul Williams toc cyn yr awr.

Y tîm Uwch Gynghrair orffennodd y gêm gryfaf a bu bron i Chris Venables eu rhoi ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner ond gwyrodd Stanton y bêl yn erbyn y trawst.

Ond fe wnaeth Venables ganfod cefn y rhwyd wyth munud o’r diwedd yn dilyn camgymeriad erchyll yn y cwrt cosbi gan Dafydd Griffith. Methodd yr amddiffynnwr canol ei beniad cyn cael ei gosbi gan brif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru.

Ychwanegodd Kellaway y drydedd wedyn ddau funud o’r diwedd i dorri calon Treffynnon a rhoi Aber yn y ffeinal.

Ymateb

Ian Hughes, rheolwr Aberystwyth:

“Mae Treffynnon yn haeddu pob clod, mae ganddyn nhw hyfforddwr da ac roeddynt wedi eu trefnu’n dda. Roedd hi wastad yn mynd i fod yn anodd a doeddwn i ddim yn disgwyl dim llai.”

“Roedd hi’n bwysig iawn bod y momentwm gennym ni [ar ôl sgorio] ar ddiwedd yr hanner cyntaf. Fe wnes i benderfyniad anodd iawn i dynnu chwaraewr [Tom Shaw] oddi ar y cae wedi hanner awr ac fe wnaeth hynny wahaniaeth. Ond roedd ei agwedd o’n arbennig ac yn dangos sut agwedd sydd yn y garfan ar hyn o bryd.”

.

Aberystwyth

Tîm: Lewis, Hoy, Thomas, S. Jones, Davies, Corbisiero, Shaw (M. Jones 39’), Kellaway, Venables, Williams, Sherbon (Morgan 89’)

Goliau: Williams 43’, Venables 82’, Kellaway 88’

.

Treffynnon

Tîm: Stanton, P. D. Williams, Griffith, Orme, Thomas, McElmeel, Roebuck, G. Williams (Boylan 84’), Jones, P. Williams (Tyson 90’), Lloyd

Gôl: G. Williams 10’

Cardiau Melyn: Griffith 47’, P. Williams 50’

.

Torf: 890

.

Y Seintiau Newydd 2-1 Y Bala

Y Seintiau Newydd aeth â hi yn y rownd gynderfynol arall wrth iddynt drechu’r Bala ar y Maes Awyr, Brychdyn.

Rhoddodd Matty Williams y Seintiau ar y blaen o groesiad Simon Spender wedi chwarter awr o chwarae cyn i Connal Murtagh daro’n ôl hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Ond y tîm llawn amser o Groesoswallt fydd yn wynebu Aberystwyth yn y rownd derfynol wedi i Jamie Mullen adfer eu mantais gyda gôl unigol dda wedi hanner awr.