Hull 1–0 Abertawe

Mae dyfodol Abertawe yn yr Uwch Gynghrair yn ansicr o hyd wedi iddynt golli o gôl i ddim yn erbyn Hull yn Stadiwm KC brynhawn Sadwrn.

Rhwydodd George Boyd unig gôl y gêm toc cyn yr egwyl a methodd yr Elyrch a tharo nôl yn yr ail hanner.

Hull oedd y tîm gorau trwy gydol yr hanner cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen chwe munud cyn yr egwyl pan beniodd George Boyd groesiad Liam Rosenior i’r gôl.

Siomedig iawn oedd Abertawe wedi hynny hefyd ac roedd y tîm cartref yn edrych yn fwy tebygol o sgorio ail na Abertawe o unioni.

Shane Long a ddaeth agosaf i Hull ond gwnaeth Michel Vorm yn dd iawn i arbed foli’r Gwyddel.

Mae Abertawe yn disgyn i’r pymthegfed safle yn dilyn y canlyniad ond yn parhau chwe phwynt uwch ben y tri isaf.

.

Hull

Tîm: Harper, Rosenior, Figueroa (Koren 75′), Livermore, Chester, Davies, Elmohamady, Meyler, Jelavic (Sagbo 90′), Long (Aluko 64′), Boyd

Gôl: Boyd 39’

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Rangel, Davies, Shelvey, Chico, Williams, De Guzmán (Dyer 45′), Britton (Lita 83′), Bony, Michu (Hernández 66′), Routledge

Cardiau Melyn: Shelvey 41’, Hernández 74’

.

Torf: 22,744