Caerdydd 0–3 Crystal Palace

Mae gobeithion yr Adar Gleision o aros yn yr Uwch Gynghrair yn dechrau diflannu wedi iddynt gael cweir gan Crystal Palace yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Jason Puncheon ddwywaith a Joe Ledley unwaith wrth i dîm Tony Pulis guro Caerdydd yn gyfforddus. Mae’r tîm o Gymru bellach chwe phwynt o ddiogelwch gyda dim ond pum gêm ar ôl.

Daeth cyfle gorau Caerdydd o’r hanner cyntaf pan fu bron i chwaraewr Palace, Adrian Mariappa, roi’r bêl yn ei rwyd ei hun.

Ond fe wnaeth yr ymwelwyr sgorio yn y pen iawn wedi hanner awr o chwarae pan darodd Puncheon gefn y rhwyd wedi i Ledley ei ganfod yn y cwrt cosbi.

Ledley ei hun a sgoriodd yr ail yn erbyn ei gyn glwb, a hynny ryw ugain munud o’r diwedd wedi i David Marshall wyro cynnig Marouane Chamakh i’w lwybr.

Roedd yn rhaid i Gaerdydd chwilio am gôl felly ac fe gawsant eu cosbi gyda gwrthymosodiad chwim ddau funud o’r diwedd pan grymanodd Puncheon ei ail ef a thrydedd ei dîm i gefn y rhwyd.

Mae Caerdydd yn disgyn un lle i’r pedwerydd safle ar bymtheg yn y tabl ac mae chwe phwynt yn eu gwahanu hwy a Norwich yn yr ail safle ar bymtheg bellach.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, Taylor, Medel, Caulker, Turner, Zaha (Noone 62′), Mutch, Campbell, Jones (Cowie 78′), Daehli (Bellamy 72′)

Cardiau Melyn: Turner 68’, Medel 70’

.

Crystal Palace

Tîm: Speroni, Mariappa, Ward, Dikgacoi, Dann, Delaney, Puncheon, Jedinak, Jerome (Murray 83′), Ledley (Parr 79′), Bolasie (Chamakh 64′)

Goliau: Puncheon 31’,  88’, Ledley 71’

Cardiau Melyn: Jerome 35’, Ward 38’, Ledley 78’, Mariappa 74’

.

Torf: 27,687