Bydd cynhadledd sy’n ceisio ymrymuso merched drwy chwaraeon yn cael ei chynnal eleni, am yr eilwaith.

Cafodd Cynhadledd Genedlaethol #FelMerched ei chynnal gan Urdd Gobaith Cymru am y tro cyntaf y llynedd, gyda’r nod o ysbrydoli a chodi hyder merched yn eu harddegau i gymryd rhan mewn chwaraeon a chadw’n actif.

Cafodd y prosiect ei sefydlu yn 2021, ac yn ogystal â chynnal clybiau cymunedol wythnosol mae’r cynllun wedi bod yn rhannu gwerthoedd yr Urdd a Chymru gyda phlant a phobol ifanc yn Qatar, Cenia a Seland Newydd hefyd.

Roedd y gynhadledd y llynedd yn cynnwys siaradwyr gwadd fel rheolwr tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru, Gemma Grainger; yr athletwraig Paralymaidd, Hollie Arnold; a chyn-gapten tîm pêl-droed Cymru, yr Athro Laura McAllister.

“[Mae hi’n] gynhadledd sy’n cael ei arwain gan ferched i ferched, prosiect sy’n rhoi ffocws ar ysbrydoli a chefnogi merched ifanc yn eu harddegau i gadw’n actif ac i chwalu’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, wrth gyhoeddi y bydd ail gynhadledd.

“Yn sesiynau cymunedol, cenedlaethol a rhyngwladol erbyn hyn, mae #FelMerch yn cefnogi nod y mudiad i sicrhau bod yr Urdd i bawb – Urdd gyfartal, Urdd gynhwysol lle mae lleisiau merched ifanc yn cael eu clywed a’u parchu.”

‘Hyrwyddo mynediad cyfartal’

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £50,000 tuag at yr ail gynhadledd, a dywed Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru, ei bod hi’n “falch iawn” eu bod nhw’n gallu parhau i gefnogi’r digwyddiad.

“Roeddwn i’n ddigon ffodus i fynd i’r gynhadledd y llynedd, roedd hi’n wych bod yno oherwydd rhoddodd gyfle i mi weld a chlywed dros fy hun y gwaith mae #FelMerch wedi bod yn ei wneud i helpu i chwalu’r rhwystrau sy’n atal menywod a merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon,” meddai ar faes yr Urdd yn Llanymddyfri,” meddai.

“Bydd cynhadledd #FelMerch yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo mynediad cyfartal i chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a thalentog a chlybiau llawr gwlad, felly rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni dal yn rhan o’r peth.

“Mae hi mor bwysig bod menywod a merched ifanc yn ymwybodol o fuddion chwaraeon a chadw’n actif, a’r cyfleoedd sy’n bodoli iddyn nhw gymryd rhan a chefnogi ei gilydd drwy wirfoddoli a hyfforddi. Roedd hynny’n rhan fawr o’r prosiect #FelMerch.

“Dw i’n hollol sicr y bydd y gynhadledd eleni’n ysbrydoli rhai i ystyried chwaraeon fel ffordd o fyw, a hyd yn oed fel gyrfa, ac yn bwysicach fyth i’w hymbweru nhw i weld a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael.”

Cynnal cynhadledd “arloesol” i ysbrydoli merched ym myd chwaraeon

Gemma Grainger, Lowri Morgan, Laura McAllister, Hollie Arnold a Connagh Howard ymysg siaradwyr cynhadledd #FelMerch yr Urdd

Prosiect #FelMerch yr Urdd yn gyfle i “chwalu’r rhwystrau sy’n atal merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon”

Cadi Dafydd

Elinor Snowsill, maswr Cymru a Bryste, yn trafod pwysigrwydd prosiect #FelMerch a rhai o’r heriau oedd yn ei hwynebu fel merch ifanc ym myd chwaraeon