Tarodd Chris Cooke 113 heb fod allan, a Colin Ingram 92 heb fod allan wrth i Forgannwg guro Middlesex o 29 rhediad yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yn Ysgol Merchant Taylors’.

Dyma ganred cyntaf erioed Cooke mewn gêm ugain pelawd – a’r cyflymaf erioed i Forgannwg – ac fe ddaeth ar y diwrnod y gwnaeth e dorri record Morgannwg wrth chwarae yng ngêm rhif 137 ei yrfa, gan ragori ar 136 Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced y sir erbyn hyn.

Wynebodd Cooke 41 o belenni, gan glatsio saith chwech, wrth symud o’i hanner canred i’w ganred mewn deuddeg pelen.

Mae partneriaeth Cooke ac Ingram o 187 yn fwy na’r un bartneriaeth arall i Forgannwg yn erbyn Middlesex mewn gemau ugain pelawd.

Daeth 103 o rediadau oddi ar bum pelawd ola’r batiad, gan gynnwys 72 oddi ar y tair pelawd olaf.

Cafodd Tom Helm, cyn-fowliwr Morgannwg, ei glatsio am 69 rhediad, y perfformiad gwaethaf erioed gan fowliwr Middlesex mewn gêm ugain pelawd.

Ond fe allai fod wedi bod yn stori wahanol iawn pan oedd Morgannwg yn 51 am dair o fewn saith pelawd.

Wrth ymateb i sgôr Morgannwg, 238 am dair – eu hail sgôr gorau erioed – llwyddodd y tîm cartref i gyrraedd 209 am bump, diolch i 59 gan y capten Stevie Eskinazi a 77 gan Joe Cracknell.

Roedd yr ysgrifen ar y mur i Middlesex unwaith llwyddodd Peter Hatzoglu, y troellwr coes o Awstralia, i dorri’r bartneriaeth agoriadol o 146 rhwng Eskinazi a Cracknell, sy’n record i’w tîm nhw yn erbyn Morgannwg.

Daeth y wiced honno pan gafodd Cracknell ei stympio gan Cooke ar ddiwedd y deuddegfed pelawd.

O’r fan honno, collodd y Saeson wicedi’n rhy aml, wrth i’r troellwyr Hatzoglu (2-28) a Prem Sisodiya (2-34) gipio dwy wiced yr un i Forgannwg.

Dilynodd Eskinazi yn y belawd ganlynol yn yr un modd â Cracknell, cyn i Max Holden gael ei ddal yn gampus gan Eddie Byrom ar y ffin ar yr ochr agored.

Cafodd Peter Malan ei fowlio gan Hatzoglu yn yr ail belawd ar bymtheg pan oedd y gêm ar ben i’r Saeson i bob pwrpas, a daeth pumed wiced i Forgannwg yn y belawd ganlynol wrth i Luke Hollman gael ei ddal gan yr eilydd Callum Taylor oddi ar fowlio Jamie McIlroy.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Middlesex yn parhau’n waglaw yn y gystadleuaeth, ac mae Morgannwg bellach wedi ennill dwy gêm a cholli un.

‘Lle gwych i fatio’

“Dyma’r tro cyntaf i fi chwarae yma, felly gobeithio y galla i ddychwelyd gan ei fod yn lle gwych i fatio,” meddai Chris Cooke.

“Dw i a Colin yn mwynhau batio gyda’n gilydd, ac fe gawson ni rythm da, ac roedd yn un o’r diwrnodau hynny, am wn i, lle mae popeth rydych chi’n rhoi cynnig arni’n llwyddo.

“Aethon ni ddim i banig [yn 51 am dair]. Roedd gyda ni 180 fel sgôr safonol, fyddai heb fod yn ddigon.

“Roedden ni’n gwybod y byddai unrhyw beth yn bosib ar y diwedd pe bai’r ddau ohonon ni wedi ymsefydlu.

“Hoffwn i feddwl fy mod i wedi taro’r bêl bron cystal â hynny, ond doedd gen i ddim canred yn fy ngyrfa T20 ar y radar wrth fatio rif pump neu chwech, felly mae’n anhygoel ei gael e ac mae’n eiliad sydd ychydig yn swreal.

“Roedden ni’n gwybod fod rhaid i ni gipio wicedi, gan mai dyna’r unig ffordd o arafu’r gyfradd sgorio, ac roedden nhw [Middlesex] yn mynd fel trên.

“Roedd Peter [Hatzoglu] a Prem [Sisodiya] yn ddewr iawn yn y ffordd wnaethon nhw fowlio, ac yn ymosodol wrth geisio cipio wicedi ac yn troelli’r bêl drwy ei rhoi yn yr awyr, oedd wedi ein cael ni’n ôl i mewn i’r gêm. Anhygoel ganddyn nhw, wir.”

 

Pen ac ysgwyddau Chris Cooke

Wicedwr Morgannwg yn torri record ugain pelawd

Y gêm yn erbyn Middlesex heddiw (dydd Mercher, Mai 31) yw gêm rhif 137 ei yrfa ugain pelawd, gan guro record y Cyfarwyddwr Criced Mark Wallace