Mae Chris Cooke, wicedwr tîm criced Morgannwg, wedi torri record yn y gêm ugain pelawd oddi cartref yn erbyn Middlesex heddiw (dydd Mercher, Mai 31).

Hon yw gêm rhif 137 ei yrfa yn y gystadleuaeth, gan guro record y Cyfarwyddwr Criced Mark Wallace, oedd wedi sgorio cyfanswm o 1,534 o rediadau gan gipio 53 daliad a 30 stympiad mewn 136 o gemau.

Daeth gêm ugain pelawd gyntaf Chris Cooke i’r sir Gymreig yn 2011, a honno yn erbyn Middlesex hefyd yng Nghaerdydd, ond fel batiwr roedd e’n chwarae yn wreiddiol.

Yn y gêm honno, tarodd ei ail belen, ei drydedd a’i bedwaredd am chwech oddi ar fowlio Ryan McLaren.

Daeth yn wicedwr rheolaidd yn 2017 yn dilyn ymddeoliad Mark Wallace, ac mae e bellach wedi sgorio 2,197 o rediadau, gan gipio 83 daliad ac unarddeg stympiad.

Gemau’r gorffennol

Mae Morgannwg wedi ennill un gêm a cholli un hyd yn hyn.

Fe guron nhw Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd yn eu gêm gyntaf nos Wener (Mai 26), cyn colli yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton nos Sul (Mai 28).

Mae Middlesex wedi colli pob gêm hyd yn hyn.

Dyma gêm ugain pelawd gyntaf Morgannwg ar dir Ysgol Merchant Taylors’ yn Northwood, gyda phob gêm arall yn y gorffennol wedi’u cynnal naill ai yn Richmond neu yn Radlett.

Tra bod Morgannwg wedi ennill pob gêm yn Richmond – yn 2011, 2014, 2016 a 2018 – mae Middlesex wedi ennill y ddwy gêm ddiwethaf yn Radlett, yn 2021 a 2022.

Mae’r gêm yn 2018 yn cael ei chofio am berfformiad Ruaidhri Smith gyda’r bêl, wrth iddo fe gipio pedair wiced am chwe rhediad, gyda Timm van der Gugten hefyd yn cipio pedair wiced cyn i Colin Ingram daro 46 heb fod allan i selio’r fuddugoliaeth.

Y garfan

Mae un newid yng ngharfan Morgannwg ar gyfer y gêm yn erbyn Middlesex yn Ysgol Merchant Taylors’, gyda Callum Taylor yn dod i mewn yn lle Ben Kellaway, sy’n canolbwyntio ar ei arholiadau yn y brifysgol am gyfnod.

Carfan Middlesex: S Eskinazi (capten), M Andersson, J Cracknell, B Cullen, J Davies, N Fernandes, T Helm, R Higgins, M Holden, L Hollman, P Malan, T Roland-Jones, J Simpson, T Walallawita

Carfan Morgannwg: C Taylor, K Carlson (capten), B Root, S Northeast, R Smith, H Podmore, P Sisodiya, P Hatzoglou, J McIlroy, C Ingram, C Cooke, T van der Gugten, D Douthwaite, E Byrom