Mae Rhys Webb, mewnwr tîm rygbi Cymru, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o’r llwyfan rhyngwladol cyn Cwpan y Byd yn ddiweddarach eleni.
Daw’r cyhoeddiad gan niwrnod cyn dechrau’r twrnament yn Ffrainc, ac yn fuan iawn ar ôl ymddeoliadau Alun Wyn Jones a Justin Tipuric.
Yn ôl mewnwr y Gweilch, cafodd y cyfle i chwarae dramor ddylanwad ar ei benderfyniad, wrth i’w gytundeb gyda’r rhanbarth ddod i ben ar ddiwedd y tymor hwn a dim cynnig newydd yn ei le ar hyn o bryd.
Doedd e ddim yn rhan o gynlluniau’r prif hyfforddwr blaenorol, Wayne Pivac, ond cafodd ei enwi yng ngharfan ei olynydd Warren Gatland ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gynharach eleni, ac wedyn yng ngharfan baratoadol Cwpan y Byd.
Enillodd ei gap cyntaf yn 2012, ond dydy e erioed wedi chwarae yng Nghwpan y Byd, gan golli allan yn 2015 oherwydd anaf.
Doedd e ddim ar gael yn 2019 gan ei fod e’n chwarae yn Toulon yn Ffrainc, a doedd e ddim wedi ennill y 60 cap angenrheidiol i fod yn gymwys i gynrychioli ei wlad – rheol sydd bellach wedi cael ei haddasu.
‘Anrhydedd enfawr’
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Rhys Webb y bu’n “anrhydedd enfawr” cael cynrychioli Cymru eto’n ddiweddar, a’i fod e’n “falch” o fod wedi cael ei gynnwys yng ngharfan baratoadol Warren Gatland ar gyfer Cwpan y Byd.
“Ond, er y byddwn i wedi mwynhau’r cyfle i orffen fy ngyrfa’n chwarae i ranbarth yng Nghymru, mae’r ansicrwydd ac anawsterau presennol yn rygbi Cymru’n golygu nad oedd fawr o gyfle i gael cytundeb oedd yn cynnig sicrwydd ar gyfer y blynyddoedd i ddod, wrth i fi ddod i ddiwedd fy ngyrfa broffesiynol,” meddai mewn datganiad.
Mae lle i gredu ar hyn o bryd y gallai fynd i Ffrainc, gydag adroddiadau bod Biarritz yn awyddus i’w ddenu, neu i’r Unol Daleithiau neu gystadleuaeth Super Rugby Hemisffer y De.
“Ac felly pan ddaeth cyfle i chwarae dramor rhwng y tymhorau, gan fy ngalluogi i gynnig mwy o sicrwydd gyrfa i fi fy hun a’r teulu, penderfynais i dderbyn y cynnig.
“Dw i’n teimlo, ar ôl cyflawni fy nod o ddychwelyd i garfan Cymru, mai dyma’r adeg iawn i fi gamu i ffwrdd o rygbi ryngwladol a mwynhau fy mlynyddoedd olaf fel chwaraewr rygbi proffesiynol.
“Hoffwn ddiolch i’r Gweilch am barhau i gredu ynof fi, hyd yn oed pan oedd cael fy hepgor o garfan Cymru weithiau’n gwneud i fi amau fy ngallu fy hun, ac i Warren am roi’r cyfle i fi wisgo’r crys coch enwog unwaith eto.”