Ffrae tros iawndal sy’n atal Clwb Pêl-droed Southampton rhag penodi Russell Martin, rheolwr Abertawe, yn rheolwr arnyn nhw ar hyn o bryd, yn ôl adroddiadau.
Mae disgwyl i Martin lofnodi cytundeb tair blynedd gyda’r Saints, ond mae’r Elyrch yn mynnu mwy o iawndal gan fod ganddo flwyddyn yn weddill o’i gytundeb presennol.
Ond mae anghydweld tros gymal sy’n amrywio faint o iawndal y gallen nhw ei dderbyn.
Yn ôl y cymal, gall Abertawe hawlio symiau gwahanol o iawndal yn dibynnu ar ba adran mae’r clwb sydd eisiau denu Russell Martin yn chwarae ynddi.
Mae Southampton newydd ostwng o Uwch Gynghrair Lloegr i’r Bencampwriaeth, ac mae’r clybiau’n anghydweld tros faint o arian sy’n ddyledus o ganlyniad i hynny.
Byddai’n rhaid i glwb yn y Bencampwriaeth dalu £1.25m, tra mai £2m yw’r swm ar gyfer clwb yn yr Uwch Gynghrair, ond gan fod y cytundeb yn cael ei drafod rhwng tymhorau, dydy hi ddim yn hollol glir beth yn union yw statws Southampton ar hyn o bryd.
Yn ôl Abertawe, dechreuodd y trafodaethau cyn i Southampton ostwng, ond mae’r Saints yn mynnu mai clwb sy’n chwarae yn y Bencampwriaeth ydyn nhw bellach.
Mae’r trafodaethau hefyd yn cynnwys nifer o staff Abertawe mae Martin yn awyddus i’w penodi yn Southampton, gan gynnwys ei is-reolwr Matt Gill, a Dean Thornton, hyfforddwr y gôl-geidwaid.
Byddai’r trafodaethau ynghylch iawndal yn cwmpasu’r staff hynny hefyd.