Mae Rhys Carré wedi gadael carfan baratoadol Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd ar ôl methu â bwrw targedau personol gafodd eu gosod iddo fe.
Cafodd y prop 25 oed, sydd wedi ennill ugain o gapiau rhyngwladol, ei gynnwys yn y garfan gychwynnol o 54 o chwaraewyr fis diwethaf.
Daw penderfyniad Undeb Rygbi Cymru “yn dilyn trafodaethau parhaus rhwng y chwaraewr a thîm hyfforddi Cymru”, meddai’r Undeb mewn datganiad.
Cafodd y targedau eu gosod ar ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, a hynny ar ôl iddo gael ei hepgor o’r garfan ar gyfer gemau’r hydref y llynedd.
Ar y pryd, dywedodd y cyn-brif hyfforddwr Wayne Pivac nad oedd ei gyflwr corfforol yn ddigon da.
Ond cafodd ei alw’n ôl i’r garfan yn y gwanwyn, a’i gynnwys fel eilydd ar gyfer tair gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.