Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio adeiladu ar eu momentwm hyd yn hyn yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, wrth iddyn nhw groesawu Caint i Gaerdydd heno (nos Wener, Mehefin 2).
Maen nhw wedi ennill dwy gêm allan o dair oddi cartref hyd yn hyn, ac wedi perfformio’n gampus ac eithrio’r golled yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton y penwythnos diwethaf.
Daw Morgannwg i mewn i’r gêm gyntaf yng Nghaerdydd ar ôl chwip o fuddugoliaeth dros Middlesex yn Northwood nos Fercher (Mai 31), wrth i Chris Cooke daro 113 heb fod allan wrth chwarae gêm rhif 137 ei yrfa ugain pelawd, sy’n record i’r sir, a Colin Ingram yn sgorio 92 heb fod allan.
Adeiladodd y ddau bartneriaeth o 187, sydd hefyd yn record, wrth i Cooke sgorio’r canred cyflymaf erioed i’r sir.
Eu sgôr o 238 yw’r ail sgôr gorau erioed i Forgannwg mewn gêm ugain pelawd, ac fe lwyddon nhw i’w amddiffyn yn gyfforddus diolch i ddwy wiced yr un i’r troellwyr Peter Hatzoglou a Prem Sisodiya.
O safbwynt y gwrthwynebwyr, dim ond un gêm allan o dair mae Caint wedi’i hennill.
Gemau’r gorffennol
Mae gan Gaint record dda yn erbyn Morgannwg yng Nghaerdydd, gyda buddugoliaethau yn 2010, 2011 a 2021, tra bod Morgannwg wedi ennill yn 2016 a’r ornest yn 2018 wedi dod i ben heb ganlyniad a’r gêm yn 2014 wedi gorffen yn gyfartal.
Y capten presennol David Lloyd, sydd wedi’i anafu ar hyn o bryd, oedd seren y gêm yn 2016 wrth iddo fe sgorio 97 oddi ar 49 o belenni cyn i Dale Steyn gipio pedair wiced i selio’r fuddugoliaeth o 55 rhediad.
Yn y gêm ddiwethaf rhwng y ddwy sir yng Nghaerdydd yn 2021, cipiodd Matt Milnes bum wiced i’r Saeson, ei ffigurau gorau erioed.
Roedd diweddglo cyffrous i’r gêm yn 2014 hefyd, wrth i Michael Hogan fowlio pelawd olaf dynn cyn i Jacques Rudolph redeg Darren Stevens allan oddi ar y belen olaf i atal y Saeson rhag ennill.
Y timau
Mae dau newid yn y garfan, gydag Andy Gorvin a Zain ul Hassan wedi’u dewis ar draul Harry Podmore a Timm van der Gugten, gyda’r olaf o’r ddau wedi anafu ei ochr ond yn gobeithio dychwelyd i herio Surrey yr wythnos nesaf.
O ran y gwrthwynebwyr, mae Kane Richardson, y bowliwr cyflym o Awstralia, allan oherwydd salwch ond mae wyneb cyfarwydd yn y garfan, sef cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, Michael Hogan.
Mae Hogan wedi cipio saith wiced i’r sir yn y gystadleuaeth hyd yn hyn, yr un nifer â Dan Douthwaite i Forgannwg.
Carfan Morgannwg: C Taylor, K Carlson (capten), B Root, A Gorvin, S Northeast, R Smith, Z ul Hassan, P Sisodiya, P Hatzoglou, J McIlroy, C Ingram, C Cooke, D Douthwaite, E Byrom
Carfan Caint: S Billings (capten), W Agar, A Bhuiyan, D Bell-Drummond, A Blake, J Cox, J Denly, J Evison, M Hogan, J Leaning, G Linde, T Muyeye, G Stewart