Ar ôl chwalu bowlwyr Middlesex yn Llundain nos Fercher (Mai 31), ailadroddodd Colin Ingram a Chris Cooke y gamp yn erbyn Caint yng Nghaerdydd heno (nos Wener, Mehefin 2), gyda phartneriaeth o fwy na chant am yr ail gêm yn olynol, wrth iddyn nhw ennill o saith wiced.
Roedd y nod o 190 yn edrych yn un anodd i’r sir Gymreig ar ôl i Tawanda Muyeye sgorio 62 wrth agor y batio, gyda chefnogaeth o 35 gan Jordan Cox.
Ond llwyddodd Morgannwg i gyrraedd y nod yn gymharol hawdd, gyda thair pelawd yn weddill, gydag Ingram heb fod allan ar 63 a Cooke yn dal wrth y llain ar 46, a’u partneriaeth yn werth 109.
Dechrau da ond colli gafael
Bowliodd Jamie McIlroy yn dynn o ben Afon Taf yn ystod y cyfnod clatsio, ond trwy gyfuniad o fowlio llac a maesu gwael fel lwyddodd Caint i gyrraedd 63 heb golli wiced o fewn chwe phelawd, wrth i’r sir Gymreig arbrofi gyda’r bowlwyr o ben afon Taf.
Daeth Tawanda Muyeye i’r llain yn benderfynol ymosodol, ac roedd e eisoes heb fod allan ar 43 erbyn diwedd y cyfnod clatsio, gyda Zain ul Hassan, Prem Sisodiya a Dan Douthwaite i gyd yn cael eu cosbi ganddo fe o naill ben y llain a’r llall.
Ond daeth tro ar fyd i’r sir Gymreig yn y seithfed pelawd, wrth i’r troellwr coes Peter Hatzoglou fowlio Daniel Bell-Drummond, oedd wedi bod yn chwarae ail feiolin i’w bartner gyda 19 solet.
Yn fuan ar ôl y wiced gyntaf, gallai Muyeye yn hawdd iawn fod wedi’i ddal ar ffin ochr y goes wrth glatsio i’r awyr.
Fe lwyddodd i ganfod Sam Northeast, oedd yn wynebu’r haul ac yn methu cadw ei gydbwysedd mor agos at y rhaff i ddal ei afael ar y bêl.
Tarodd Joe Denly chwip o ergyd chwech oddi ar ei goesau cyn cael ei ddal yn gyrru at Colin Ingram ar yr ochr agored oddi ar fowlio Douthwaite, a hwnnw’n cipio wiced haeddiannol wrth gywiro’i hyd a’i led ryw ychydig yn ei ail belawd.
Yn y belawd ganlynol, cipiodd Douthwaite chwip o ddaliad yn y goes fain oddi ar fowlio Sisodiya wrth i Gaint lithro i 98 am dair, gyda’r rhod yn dechrau troi o blaid Morgannwg unwaith eto.
Cwympodd y bedwaredd wiced yn ddiweddarach yn y belawd, wrth i Muyeye dorri Sisodiya yn sgwâr at Sam Northeast, a’i fatiad gwerthfawr yn dod i ben ar 62, a Chaint mewn trafferth gymhedrol ar 103 am bedair.
Ar ôl clatsio chwech oddi ar Jamie McIlroy, goroesodd Jordan Cox ddwy ymgais i’w ddal oddi ar belenni uchel, y naill gan Northeast a’r llall gan y capten Kiran Carlson yn yr unfed belawd ar bymtheg.
Ond fe chwythodd y batiwr ei blwc yn y belawd ganlynol, wrth dynnu at Sam Northeast oddi ar fowlio Hatzoglou, gwblhaodd ei bedair pelawd gyda dwy wiced am 25.
Daeth y seithfed wiced wrth i Douthwaite ganfod ymyl bat Jack Leaning i lawr ochr y goes, a’r wicedwr Chris Cooke yn dal ei afael ar y bêl yn gyfforddus, a Chaint erbyn hynny’n 171 am chwech yn y belawd olaf ond un cyn cyflymu’r gyfradd yn y diwedd i sgorio mwy nag y dylen nhw fod wedi’i sgorio.
Cwrso yn erbyn y ffactorau
Llwyddodd Morgannwg i gadw i fyny â’r gyfradd sgorio angenrheidiol ym mhelawdau agoriadol eu batiad, wrth i Eddie Byrom glatsio Grant Stewart.
Ond cipiodd y bowliwr ei wiced yn y bedwaredd pelawd pan yrrodd i lawr corn gwddf Cox am 43, a’r sir Gymreig yn 51 am un.
Fe wnaeth 51 am un droi’n 62 am ddwy pan darodd Sam Northeast (14) y bêl yn uchel i’r awyr ar yr ochr agored a rhoi daliad syml i Cox a wiced i Hogan, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, wrth ddychwelyd i Gaerdydd.
Daeth un o uchafbwyntiau’r noson pan gafodd Kiran Carlson ei ddal yn gampus ag un llaw i lawr ochr y goes gan Wes Agar oddi ar fowlio Stewart am 17, a Morgannwg yn 82 am dair.
Yn dilyn eu gorchestion yn erbyn Middlesex nos Fercher (Mai 31), roedd gobeithion Morgannwg unwaith eto yn nwylo Colin Ingram a Chris Cooke ac fe gynigion nhw sefydlogrwydd yn ail hanner y batiad i gadw eu tîm ar y trywydd iawn.
Cyrhaeddodd Ingram ei hanner canred oddi ar 24 pelen, gan daro wyth pedwar ac un chwech erbyn iddo gyrraedd y garreg filltir yn y bedwaredd pelawd ar ddeg.
O’r fan honno, roedd y dasg yn edrych yn un hawdd i Forgannwg yn y pen draw, wrth i’r rhediadau buddugol ddod oddi ar belen anghyfreithlon ddechrau’r ddeunawfed pelawd.
Bydd Morgannwg yn llygadu trydedd buddugoliaeth o’r bron wrth deithio i Hove i herio Sussex ddydd Sul (Mehefin 4).
‘Gosod safonau newydd’
“Dydy cwrso 190 byth yn dasg hawdd o dan unrhyw amodau nac mewn unrhyw stadiwm,” meddai Mark Alleyne, prif hyfforddwr tîm undydd Morgannwg.
“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi gwneud gwaith gwych.
“Gwnaeth Eddie Byrom wneud i ni hedfan ar y dechrau, ac wedyn roedd y bartneriaeth rhwng Chris a Colin yn syfrdanol.
“Dydy hi ddim yn dasg hawdd [parhau â’r momentwm o’r gêm flaenorol], a dydych chi ddim yn gweld hynny’n aml pan fo dau foi sy’n adeiladu record o bartneriaeth yn y gêm flaenorol yn dod i mewn ac yn ei ailadrodd e eto’r gêm ganlynol.
“Ro’n i’n hanner disgwyl i ddau foi arall sefyll i fyny heddiw, ond doedd dim o’u hangen nhw.
“Ro’n i’n siomedig eu bod nhw [Caint] wedi cyrraedd 190 yn gymharol hawdd, ond wrth lwc roedden nhw braidd yn oddefol yn y pelawdau canol ac fe wnaethon nhw roi tipyn mwy o gyfle i ni.
“Efallai am fod [Peter] Hatzoglou wedi bowlio’n dda eto heddiw, roedd Jamie McIlroy yn dda iawn ond yn anlwcus heddiw.
“Ond ar ddiwrnod arall, byddwn i’n hoffi pe baen ni’n cyfyngu hynny i 175 ar y mwyaf.
“Yr hyn rydyn ni wedi’i ddweud wrth y chwaraewyr yw nad oes cyfyngiadau arnyn nhw, dydyn ni ddim yn edrych am sgôr cyfartalog; rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni fynegi ein hunain dros y twrnament a gosod safonau newydd.”
Taith i Hove i herio Sussex sydd gan Forgannwg ddydd Sul (Mehefin 4).