Roedd Colin Ingram a Chris Cooke yn ei chanol hi i dîm criced Morgannwg unwaith eto, wrth iddyn nhw guro Sussex o 32 rhediad yn eu gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yn Hove.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg bellach wedi ennill pedair allan o’u pum gêm hyd yn hyn.

Sgoriodd y sir Gymreig 219 am bump yn eu batiad, diolch i hanner canred Cooke (50) a 48 gan Ingram, ar ôl i Sam Northeast daro 32 wrth agor y batio.

Un testun pryder i Forgannwg, serch hynny, yw’r anaf i Eddie Byrom, ar ôl i’r batiwr llaw chwith orfod ymddeol o’i fatiad ar 17, gan adael y cae yn gafael yn ei goes.

Daeth y capten Kiran Carlson i’r llain a tharo dwy chwech a thair pedwar wrth sgorio 26 mewn batiad byr ond ffrwydrol.

Cipiodd Henry Crocombe dair wiced i’r Saeson, ond doedd hynny ddim yn ddigon i atal y llif rhediadau ar y cae bach ar lan y môr, wrth i’r Saeson ildio 23 o ychwanegiadau.

Collodd Sussex wicedi’n rhy aml, ac roedd ymdrechion Tom Alsop (58) a Michael Burgess (45) yn ofer, gyda’u tîm yn wynebu cryn her o’r belen gyntaf wrth geisio cwrso nod mor sylweddol.

Y seren ymhlith bowlwyr Morgannwg oedd Jamie McIlroy, y bowliwr cyflym llaw chwith, oedd wedi cipio tair wiced.