Mae rheolwr newydd tîm pêl-droed Caerdydd yn dweud ei fod e wedi dod i glwb prifddinas Cymru ar gyfer “her newydd”.

Cafodd y gŵr fu’n rheoli yng nghynghrair Twrci ei benodi dros y penwythnos i olynu Sabri Lamouchi, ar ôl i’r clwb benderfynu peidio adnewyddu ei gytundeb er ei fod e wedi eu hachub nhw rhag cwympo o’r Bencampwriaeth.

Ond fel un oedd yn brwydro am le yn Ewrop gyda Fenerbahçe, mae’n cydnabod y bydd yr her yng Nghaerdydd yn un “wahanol”.

“Roedd gyda ni gyfle i gymhwyso ar gyfer Cynghrair Europa,” meddai wrth gyfarfod â’r wasg am y tro cyntaf ers iddo fe gael ei benodi.

“Bydd Caerdydd yn ffordd wahanol.

“Dw i bob amser yn rheolwr sydd â thargedau, heb dargedau allwch chi ddim goroesi.

“Hefyd, dylai’r chwaraewyr wybod y targedau sydd gyda ni. O ran hynny, rhaid i ni weithio’n galed bob dydd, bod yn ddisgybledig a pharchu ein gilydd.”

Chwaraewyr a staff

Fel un sydd wedi rheoli dramor, dywed Erol Bulut fod ganddo fe gysylltiadau er mwyn denu chwaraewyr newydd.

Ond mae Caerdydd dan embargo trosglwyddiadau ar hyn o bryd, ac fe fydd yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar ddenu chwaraewyr ar fenthyg neu heb glybiau.

“Rhaid i ni chwilio a chael cynifer o chwaraewyr da â phosib,” meddai.

“Mae’r Bencampwriaeth yn gynghrair anodd, mae’r timau yn y gynghrair yn dimau anodd, ond bydd yn rhaid i ni fod yn anodd iddyn nhw hefyd.”

Mae disgwyl i’r rheolwr newydd gadarnhau ei staff dros y dyddiau nesaf, ac mae’n dweud y bydd yn dod â rhai staff newydd gyda fe.

Rhinweddau

Beth fydd e’n edrych amdano fe o ran rhinweddau’r chwaraewyr, felly?

“Dw i’n hoffi disgyblaeth o ran chwaraewyr, parch at ein gilydd, nid dim ond parchu’r hyfforddwr, eu hunain a’r bobol yn y clwb.

“Mae hynny’n bwysig iawn i fi.”

Mae’n dweud bod rhaid i’r tîm fod yn gryfach ar eu tomen eu hunain, ac mae’n galw ar y cefnogwyr i’w cefnogi nhw dros y tymor i ddod.