Mae gemau criced dynion Morgannwg a merched Western Storm yn cael eu cynnal gefn wrth gefn yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 7).
Bydd y merched yn herio’r Blaze mewn gêm ugain pelawd am 2.30yp, gyda’r dynion yn wynebu Surrey yn y Vitality Blast, y gystadleuaeth ugain pelawd sirol, am 6.30yh, ac mae mynediad am ddim i’r ddwy gêm i aelodau Morgannwg.
Bydd bwyd ac adloniant ar gael, yn ogystal â chyfle i’r dorf gwrdd â’r chwaraewyr a chael eu llofnod.
Ymhlith y chwaraewyr amlycaf yng ngharfan Western Storm mae’r capten Sophie Luff, Heather Knight, Fran Wilson, a sawl merch o Gymru gan gynnwys Sophia Smale ac Alex Griffiths.
Y garfan: Sophie Luff (c), Danielle Gibson, Orla Prendergast, Heather Knight, Emma Corney, Fran Wilson, Claire Nicholas, Nat Wraith, Alex Griffiths, Nicole Harvey, Lauren Filer, Mollie Robbins, Chloe Skelton, Sophia Smale, Niamh Holland, Izzy Patel, Katie Jones, Isla Thomson, and Rebecca Odgers.
Maen nhw wedi ennill tair gêm ac wedi colli tair hyd yn hyn, ond mae ganddyn nhw lygedyn o obaith o gymhwyso o hyd, yn ôl eu prif hyfforddwr Trevor Griffin a’u capten Sophie Luff.
Ymhlith carfan y gwrthwynebwyr mae’r capten Kirstie Gordon a’r chwaraewraig dramor, Nadine de Klerk o Dde Affrica oedd wedi chwarae yn rownd derfynol Cwpan y Byd dros ei gwlad yn ddiweddar.
Mae cryn dipyn o brofiad ymhlith carfan y gwrthwynebwyr, gan gynnwys Nat Sciver-Brunt a Tammy Beaumont.
Morgannwg ar rediad da
Yn yr ail gêm rhwng Morgannwg a Surrey, bydd y sir Gymreig yn ceisio adeiladu ar eu rhediad da yn y gystadleuaeth, ar ôl ennill pedair allan o’u pum gêm hyd yn hyn.
Mae Eddie Byrom allan ag anaf i’w goes, ond does dim newid arall i’r garfan gurodd Sussex yn Hove dros y penwythnos.
Ymhlith y chwaraewyr sydd wedi serennu i Forgannwg hyd yn hyn mae’r batwyr Chris Cooke a Colin Ingram, y capten Kiran Carlson a’r bowliwr cyflym llaw chwith, Jamie McIlroy.
Mae Morganwg yn bedwerydd, ond yn gyfartal ar bwyntiau â Surrey a Hampshire uwch eu pennau.
Cael a chael yw hi yn nhermau gemau’r gorffennol rhwng y ddwy sir, gyda Morgannwg yn fuddugol yn 2016 a 2021, tra bod Surrey wedi ennill y gemau yn 2018 a 2019, tra bod y gemau yn 2017 a 2022 wedi dod i ben heb ganlyniad oherwydd y tywydd.
Bydd tua 2,000 o blant a staff o 54 o ysgolion cynradd a cholegau o bob cwr o’r de yn cael mynd i’r gemau heddiw.
Carfan Morgannwg: C Taylor, K Carlson (capten), B Root, A Gorvin, S Northeast, R Smith, Zain ul Hassan, P Sisodiya, P Hatzoglou, J McIlroy, C Ingram, C Cooke, D Douthwaite