Casi Wyn, sy’n pendroni a oes pwrpas ehangach i theatr genedlaethol.
Eleni, mae’r National Theatre yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant. Fis diwethaf, mi welais ‘Edward II’ – un o gynyrchiadau diweddar y National Theatre. Wrth deithio nôl y noson honno, rwy’n cofio gofyn imi fy hun, ‘beth yw pwrpas y National Theatre?’
Yn wir, pa werth sydd i unrhyw theatr ‘genedlaethol’?
Mae Nicholas Hytner, cyfarwyddwr artistig presennol y National Theatre yn nodi fod y National Theatre yn ceisio ‘ail-ddiffinio’r presennol yng ngoleuni’r gorffennol.’
Rydym ni’n ddigon ffodus o gael dwy theatr genedlaethol yng Nghymru; Theatr Genedlaethol Cymru a’r National Theatre of Wales.
Mae amryw o gynyrchiadau diweddar Theatr Genedlaethol Cymru yn seiliedig ar ein hetifeddiaeth yn ogystal â hanes ein gwlad.
Darn o theatr oedd yn olrhain hanes safiad Eileen Beasley yn erbyn biliau trethi Saesneg oedd ‘Dyled Eileen’ – tra roedd ‘Y Bont’ yn ymgais i ail-greu protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith mewn cyd-destun theatrig. Dau ddarn o theatr ‘cenedlaetholgar’ eu naws.
Dyletswydd genedlaethol ar y theatr?
Dyma godi cwestiwn – ai cyfle i gyflwyno safbwyntiau gwleidyddol cenedlaetholgar drwy berfformiad ydi theatr sy’n ‘genedlaethol’? Ymddengys i’r National Theatre of Scotland chwarae rhan bwysig yn llwyddiant ymgyrch datganoli a refferendwm 1997 yr Alban.
Mewn byd lle mae globaleiddio’n effeithio fwyfwy ar ddiwylliannau, yn enwedig felly’r rhai lleiafrifol, ydi hi’n ddyletswydd ar gyfrwng mor bwerus â’r ‘theatr’ i warchod traddodiadau a diwylliannau gwlad?
Mae’r Irish National Theatre yn enghraifft o theatr genedlaethol sy’n cydnabod taw eu prif fwriad yw cynnal a chynrychioli hunaniaeth Iwerddon – sy’n ymylu at fod yn weithred wleidyddol ynddi ei hun.
Mae gan theatr genedlaethol y gallu i drawsnewid safbwynt ei chynulleidfa. Mae ganddi’r gallu i awgrymu, heb ddiffinio; y gallu i adrodd stori heb bregethu.
O ystyried hyn, rhaid gofyn y cwestiwn; a ydym ni’n dueddol o danseilio grym ein theatr genedlaethol yng Nghymru? Mae ganddi’r gallu i gyflwyno darluniau cyfoes o’r Gymraeg, yn ogystal â’r cyfle i brofi bod iaith hynaf Ewrop yn parhau i fod yn berthnasol ym mywydau pobl ifanc heddiw.
Gallwch ddilyn Casi ar Twitter ar @CasiWyn.