Mae casgliad o 1,500 gwaith celf gafodd eu cipio gan y Natsïaid yn ystod y 1930au a 1940au wedi eu darganfod yn Munich yn yr Almaen.
Y gred yw bod y trysor celf guddiedig yn cynnwys gwaith gan Matisse, Chagall a Picasso.
Dywed ymchwilwyr fod y darnau celf gwerth £846m a’u bod wedi eu darganfod yn 2011 pan chwilion nhw gartref mab gwerthwr celf yn y ddinas yn ystod ymchwiliad treth.