Wrth i ryfel cartref enbyd Syria barhau, mae gofid bod plant sydd wedi ffoi dros y ffin yn cael eu hegsploitio.

Mae dros filiwn o ffoaduriaid bellach wedi dianc i Lebanon, a’r Cenhedloedd Unedig nawr yn poeni bod plant Syria yn cael eu gorfodi i weithio er mwyn cynnal eu teuluoedd.

Mae rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar wedi ffilmio tystiolaeth fod plant mor ifanc ag wyth mlwydd oed yn cael eu gorfodi i weithio hyd at ddeg awr y dydd am gyflog o ddim ond pedair doler – dwy bunt pum deg y diwrnod.

Cymraes yn Lebanon

Bu camerâu yn dilyn Cat Jones o Landeilo, sy’n gweithio yn Lebanon gyda Unicef ers chwe mis.

“Os y’ch chi’n cerdded mewn i unrhyw le i gael rhywbeth i fwyta yn Lebanon, am un plataid bach o fwyd neu sandwich, chi’n talu tua $3 neu $4 am un brechdan” meddai Cat Jones “mae hynny’n un pryd o fwyd i un person unwaith mewn dydd – a ‘na faint maen nhw’n cael am ddechrau am chwech o’r gloch yn y bore nes 3 neu 4 y p’nawn.”

Fe wnaeth y criw geisio siarad gyda rhai o’r plant oedd yn gweithio yn y caeau yn nyffryn Bekaa, ger y ffin rhwng Lebanon a Syria. Ond fe wnaeth rheolwyr lleol eu rhybuddio rhag ffilmio cyfweliadau gyda’r gweithwyr.

“Mae ‘na broblem ‘se ni’n trio mynd atyn nhw, gallen nhw fod mewn trwbl ‘da’r gwaith a gallen nhw golli swydd. Ry’n ni’n gallu creu mwy o broblemau iddyn nhw drwy geisio eu helpu nhw.”

Plant yn llwgu

Er bod Unicef yn ceisio cefnogi’r plant a’u teuluoedd, mae’n sefyllfa anodd i weithwyr fel Cat Jones. Mae nifer o Syriaid ar eu cythlwng ac angen unrhyw arian sydd ar gael iddyn nhw.

Ar ben hyn oll, mae’r tywydd garw yn agosau a miloedd o blant yn cysgodi mewn pebyll a thai dros dro. Gall y gaeaf fod yn galed yn yr ardal, ac mae Cat Jones yn gofidio y gallai hyn waethygu safon byw plant bregus ymhellach:

“Erbyn mis nesa’, ni’n mynd i weld eira ‘ma…ni’n gweld bod rhai o’r plant yma yn droednoeth ac mewn crysau-T. Ni’n mynd i ddechrau rhoi dillad gaeaf mas i’r plant – boots a sgidiau i wneud yn siwr bod nhw’n cadw’n dwym.”

Dyma’r drychineb ddyngarol waethaf mewn ugain mlynedd. Gyda’r brwydro yn parhau yn Syria, mae’r Cenhedloedd Unedig yn rhagweld bydd 4miliwn o Syriaid – chwarter y boblogaeth – wedi dianc rhag y brwydro erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.


Syria
I weld yr adroddiad llawn, gwyliwch Y Byd ar Bedwar heno am ddeg ar S4C.