Caryl Burke
Yn y cyntaf o’n blogiau Celfyddydol newydd, Caryl Burke aeth i wylio perfformiad theatr newydd Cwmni’r Frân Wen yn Feed My Lambs, Caernarfon.

Yn seiliedig ar hanes George Price, gwyddonydd ecsentrig Americanaidd, mae drama newydd Cwmni’r Frân Wen ‘Dim Diolch’ yn mentro gofyn y cwestiwn: A oes y fath beth ag anhunanoldeb pur, ynteu hunan-les cudd ydyw?

Mae’r ddrama dywyll hon yn portreadu cyfnodau gwahanol o fywyd George Price, o’i ddyddiau ym Mhrifysgol Chicago, ei briodas dyrfol â Julia Madigan, ei waith ym Mhrydain, a’r cyfnod olaf o’i fywyd wedi iddo gael ei wneud yn ddigartref.

Price oedd y dyn cyntaf i fynegi anhunanoldeb mewn hafaliad mathemategol, ond gwir dristwch y stori yw’r ffordd y cafodd ei yrru’n wallgo’ gan ei ddarganfyddiad ei hun. Gallwch ddarllen mwy o’i hanes yma.

Pam nad oeddwn wedi clywed amdano?

Yr hynny a drawodd fi’n gyntaf, oedd y ffaith fod y ddrama hon wedi’i seilio ar hanes dyn mor ddylanwadol yn y byd gwyddonol, dyn mor ddiddorol…ond mod i erioed wedi clywed dim o’i hanes.

Dywedodd Iola Ynyr, a ysgrifennodd y ddrama: “Pan glywais ei stori, meddyliais – ‘pam nad ydw i erioed wedi clywed am y cymeriad hynod, ysbrydoledig a chymhleth hwn o’r blaen?’. Fe es ati’n syth i gofnodi ei hanes ar bapur, ac wrth i mi ymchwilio, fe ddarganfyddais fwy a mwy o bethau rhyfeddol.

“Yn y ddrama, rydym ni’n ymgodymu â theori a meddyliau George a fydd yn ein gwahodd ni i gyd i archwilio ein dealltwriaeth ein hunain o weithredoedd o garedigrwydd yn y cyfnod anodd hwn. Beth sy’n ein rheoli ni – ein genynnau neu ein hewyllys rydd?”

Castio gwych

Yr ail beth wnaeth fy nharo am y ddrama yw perfformiadau gwych y cast.

Daw’n amlwg y byddai portreadu George Price yn her i unrhyw actor, ond i Carwyn Jones, yr actor 33 oed sydd yn wreiddiol o Lanfairpwll ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, roedd y rhan hefyd yn ‘freuddwyd’ – “Fel y rhan fwyaf o bobl, doeddwn i byth wedi clywed am George Price, ond pan ddarllenais y sgript cefais fy rhyfeddu.

“Roedd blynyddoedd o flaen ei oes ac yn athrylith go iawn, ond ni chafodd y gydnabyddiaeth yr oedd yn ei haeddu. Cofiwch fod hwn yn ddyn a ddylanwadodd ar y bom atom, therapi ymbelydredd canser a chynllunio drwy gymorth cyfrifiadur!

Ychwanegodd Carwyn: “Wrth i ni archwilio stori’r dyn, ei waith a’r cymhelliad wrth wraidd caredigrwydd, cawn ddarlun eglur o’r bersonoliaeth gymhleth ac aml haenog hon. Mae portreadu cymeriad fel George yn freuddwyd i mi fel actor.”

Hefyd yn actio yn y ddrama mae Ceri Elen a Martin Thomas, sy’n chwarae nifer o gymeriadau pwysig ym mywyd George.

Agosatrwydd y set

Elfen effeithiol arall o’r perfformiad yw’r set a’r tafluniadau diddorol sy’n cael eu defnyddio i ddangos treuliad amser a thaith George i Brydain. Mae’r gynulleidfa yn eistedd yn agos iawn i’r perfformio sy’n golygu fod yr angerdd a’r tensiwn yn cael ei chwyddo a does dim dianc wrth i’r actorion ddefnyddio’r gofod o gwmpas y gynulleidfa yn effeithiol.

Maent hefyd yn annog aelodau o’r gynulleidfa i ddod a bwydydd sych i’r perfformiadau fydd yna’n cael eu rhoi i fanciau bwydydd lleol, gan gyd-fynd â’r thema o ddigartrefedd sy’n ymddangos.

Mae’r perfformiad ar daith tan ddiwedd mis Tachwedd ac mi fyswn yn annog unrhyw un i fynd i’w weld. Mae’n berfformiad diddorol, emosiynol, angerddol sy’n gorfodi pobl i edrych ar bethau ychydig yn wahanol.

Ceir mwy o wybodaeth ar wefan Cwmni’r Frân Wen, ac mae modd archebu tocynnau drwy alw 01248 715048.

Marc: 8/10

Mae Caryl Burke yn fyfyrwraig blwyddyn olaf yn astudio Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor. Gallwch ei dilyn ar Twitter ar @WelshCaryl.