Megan Lewis Trisant yn cael ei chadeirio
Y diweddara’ o Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Ceredigion – Mae’r canlyniadau i gyd ar y gwaelod.

Clwb Llanwenog oedd enillwyr Eisteddfod Ceredigion unwaith eto, ond roedd y canlyniad yn glosiach na’r llynedd.

Ar y diwedd, roedd gan y pencampwyr 103 o bwyntiau, Pontsian yn ail gyda 94 a Mydroilyn yn drydydd ar 68.

Uchafbwynt y fuddugoliaeth oedd ennill y gystadleuaeth ola’ – y côr – a seren yr Eisteddfod oedd Enfys Hatcher ar ben pedair gwobr gynta’ unigol, hi oedd arweinydd y Côr a hyfforddwraig yr Ensemble Lleisiol buddugol.#

Hi hefyd a gafodd y tlws am fod yn Llefarydd Gorau’r Eisteddfod, gydag Iwan Davies o Landdewi Brefi yn ennill cwpan her yr Unawdydd Gorau.

Megan yn cipio’r Gadair

Roedd enillydd y Gadair eleni yn “llenor o safon uchel iawn” yn ôl y beirniad, y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan.

Roedd Megan Lewis o glwb Trisant wedi sgrifennu stori fer yn llawn “cyffyrddiadau cynnil” am glirio aelwyd ar ôl marwolaeth aelod o deulu.

Mae’r fyfyrwraig trydedd flwyddyn yn Adran y Gymraeg, Prifysgol  Aberystwyth, yn “un sy’n astudio pobol, iaith a thafodiaith yn graff”, meddai Gwenallt Llwyd Ifan.



6.40

Fe barhaodd prynhawn da Llanwenog wrth iddyn nhw ennill yr Ensemble Lleisiol i fynd ar y blaen yn gyffredinol.

Ond mae’r wobr am broffesiynoldeb yn mynd i Carwyn Hawkins, Felinfach, am gario ymlaen gyda’r Unawd Sioe Gerdd er fod melt neu wynt wedi diffodd goleuadau a system sain y Pafiliwn.

Mae’r gwobrau’n dal i gael eu rhannu rhwng nifer o glybiau gyda Rhys ac Iwan o Landdewi Brefi’n ennill y ddeuawd a’r brawd a chwaer, Rhys a Fflur, o Langeithio’n ychwanegu at eu gwobrau gyda’r ail.

6.40

Fe barhaodd prynhawn da Llanwenog wrth iddyn nhw ennill yr Ensemble Lleisiol a’u rhoi ar y blaen yn gyffredinol.

Ond mae’r wobr am broffesiynoldeb yn mynd i Carwyn Hawkins, Felinfach, am gario ymlaen gyda’r Unawd Sioe Gerdd er fod melt neu wynt wedi diffodd goleuadau a system sain y Pafiliwn.

Mae’r gwobrau’n dal i gael eu rhannu rhwng nifer o glybiau gyda Rhys ac Iwan o Landdewi Brefi’n ennill y ddeuawd a’r brawd a chwaer, Rhys a Fflur, o Langeithio’n ychwanegu at eu gwobrau gyda’r ail.

5.30

Aeth hi’n glosiach fyth, wrth i Lanwenog gipio ail wobr gyntaf o fewn ychydig.

Nhw a enillodd ar y gystadleuaeth cerdd dant.

5.10

Y farn ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid oedd fod Pontsian fymryn ar y blaen erbyn diwedd y prynhawn yn Eisteddfod CFfI Ceredigion.

Roedd hynny ar ôl cael buddugoliaeth drawiadol yn yr Ymgom – trydydd cynta’r clwb yn ystod y dydd.

Ond roedd Llanwenog yn dal i bwyso, wrth i Enfys Hatcher ennill yr Unawd Cân Werin i ychwanegu at ei buddugoliaeth yn y Llefaru dan 26.

Rhwng nos Iau a’r Sadwrn, roedd gan glybiau fel Troedyraur a Bro’r Dderi ddwy wobr gynta’ yr un hefyd gan gynyddu’r disgwyl y gallai hon fod yn un o’r eisteddfodau agosa’ ers tro.

4.00

Roedd hi’n argoeli’n gystadleuaeth agos erbyn canol prynhawn Sadwrn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Ceredigion.

Roedd o leia’ dri o glybiau’n agos iawn ar ôl 14 o gystadlaethau, gyda phedwar clwb wedi cael dau gynta’ yr un.

Ynhlith yr uchafbwyntiau ddechrau dydd Sadwrn, roedd dwbl i Lowri Elen Jones o Bro’r Dderi ar yr unawd a’r llefaru 16 neu iau – fe ddath hi’n ail hefyd ar y Canu Emyn.

Marciau Terfynol

Llanwenog 103

Pontsian 94

Mydroilyn 68

Llanddewi Brefi a Llangeitho 47

Caerwedros 44

Troedyraur 41

Bro’r Dderi a Felinfach 34

Bryngwyn a Talybont 27

Y canlyniadau

Nos Sadwrn

Côr

  1. Llanwenog
  2. Pontsian
  3. Mydroilyn

Deuawd Doniol

  1. Llyr a Huw, Pontsian
  2. Emyr ac Iwan, Llanddewi Brefi
  3. Trystan a Morys, Caerwedros

Parti Deulais

  1. Llanwenog
  2. Mydroilyn
  3. Pontsian

Sgets

  1. Talybont
  2. Caerwedros
  3. Llangeitho

Unawd Sioe Gerdd

  1. Iwan Davies, Llanddewi Brefi
  2. Elen Thomas, Talybont
  3. Lia Mair Jones, Mydroilyn

Deuawd

  1. Rhys ac Iwan, Llanddewi Brefi
  2. Rhys a Fflur, Llangeitho
  3. Cadi a Dyfan, Lledrod

Ensemble Lleisiol

  1. Llanwenog
  2. Mydroilyn
  3. Troedyraur

Deuawd

  1. Rhys ac Iwan, Llanddewi Brefi
  2. Rhys a Fflur, Llangeitho
  3. Cadi a Dyfan, Lledrod

Dydd Sadwrn

Y canlyniadau diweddara’ sydd gynta’

Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant

  1. Llanwenog
  2. Mydroilyn
  3. Troedyraur

Unawd Alaw Werin

  1. Enfys Hatcher, Llanwenog
  2. Elen Thomas, Talybont
  3. Caryl Haf, Llanddewi Brefi

Ymgom

  1. Pontsian
  2. Tregaron
  3. Mydroilyn

Unawd Offerynnol

  1. Fleur Snow, Troedyraur
  2. Nest Jenkins, Lledrod
  3. Jay Snow, Troedyraur

Parti Llefaru

  1. Pontsian
  2. Llanwenog
  3. Mydroilyn

Canu Emyn

  1. Elen Thomas, Talybont
  2. Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi
  3. Ianto Jones, Felinfach a Rhys Griffiths, Llangeitho

Llefaru 26 neu iau

  1. Enfys Hatcher, Llanwenog
  2. Hedydd Davies, Bro’r Dderi
  3. Elin Jones, Llanwenog

Unawd 26 neu iau

  1. Iwan Davies, Llanddewi Brefi
  2. Elen Davies, Troedyraur
  3. Caryl Haf Jones, Llanddewi Brefi

Llefaru 21 neu iau

  1. Nest Jenkins, Lledrod
  2. Melissa Davies, Bro’r Dderi
  3. Lowri Jones, Lledrod a Meleri Morgan, Llangeitho

Llefaru 16 neu iau

  1. Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi
  2. Gwenyth Richards, Pontsian
  3. Mared Fflur Davies, Felinfach

Unawd 16 neu iau

  1. Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi
  2. Mared Lloyd Jones, Llanddewi Brefi
  3. Lleucu Ifans, Dihewyd

Llefaru 13 neu iau

  1. Gwion Ifan, Pontsian
  2. Alwen Morris, Llangwyryfon
  3. Mirain Davies, Caerwedros

Unawd 13 neu iau

  1. Enfys Morris, Llangwyryfon
  2. Ffion Williams, Lledrod
  3. Heledd Evans, Caerwedros

Nos Iau

Dawnsio Disgo

  1. Lledrod

Deialog ar y Pryd

  1. Carwyn a Gethin, Mydroilyn
  2. Dion a Llyr, Pontsian
  3. Geraint a Dewi, Talybont

Adrodd Digri

  1. Rhys Griffiths, Llangeitho
  2. Twm Ebbsworth, Llanwenog
  3. Cennydd Jones, Pontsian a Dyfan Jones, Lledrod

Meimio i Gerddoriaeth

  1. Llanwenog
  2. Llangeitho
  3. Mydroilyn a Penparc

Cân Bop

  1. Troedyraur
  2. Pontsian
  3. Mydroilyn

Gwaith Cartref

Enillwyr y Tlws Gwaith Cartref: Llanwenog

Cadair

  1. Megan Lewis, Trisant
  2. Siwan Davies, Llanwenog
  3. Luned Mair, Llanwenog

Stori Fer

  1. Megan Lewis, Trisant
  2. Lunde Mair, Llanwenog
  3. Catrin Jones, Pontsian

Cerdd

  1. Siwan Davies, Llanwenog
  2. Ceris James, Bryngwyn
  3. Llyr Jones, Pontsian

Llyfr Trysorydd

  1. Llanwenog
  2. Troedyraur
  3. Caerwedros

Celf

  1. Ella Evans, Felinfach
  2. Sioned Fflur Evans, Llanwenog
  3. Iwan Davies, Llanddewi Brefi a Gwennan Thomas, Pontsian

Arallgyfeirio Shed yr Ardd

  1. Lia Jones, Mydroilyn
  2. Elen Thomas, Pontsian
  3. Carwyn Davies, Llanwenog

Ysgrifennu Sgets

  1. Lisa Jones, Pontsian
  2. Trystan Jones, Caerwedros
  3. Cennydd Jones, Pontsian

Llyfr Lloffion

  1. Llanwenog
  2. Caerwedros
  3. Pontsian

Rhaglen Clwb

  1. Llanddewi Brefi
  2. Caerwedros
  3. Pontsian

Ffotograffiaeth

  1. Trystan Jones, Caerwedros
  2. Alis Gwyther, Bro’r Dderi
  3. Lleucu Ifans, Dihewyd

Cywaith Clwb

  1. Llangeitho
  2. Llanwenog
  3. Mydroilyn

Cyfansoddi Alaw

  1. Richard Jones, Pontsian
  2. Meleri Davies, Llanwenog
  3. Elen Davies, Pontsian a Trystan Jones, Caerwedros

Pwerbwynt i hybu clwb

  1. Hawys Evans, Bryngwyn
  2. Carys Evans, Mydroilyn
  3. Max Daniels, Llangeitho

Brawddeg

  1. Enfys Hatcher, Llanwenog
  2. Ffion Evans, Caerwedros
  3. Meleri Morgan, Llangeitho

Limrig

  1. Enfys Hatcher, Llanwenog
  2. Ifan Davies, Llangwyryfon
  3. Mared Fflur Davies, Felinfach

Llyfr Cofnodion

  1. Llanwenog