Bydd cwmni theatr Bara Caws yn mynd a’u cynhyrchiad o Llanast! ar daith o amgylch Cymru y mis hwn.
Mae’r ddrama yn gyfieithiad gan Gareth Miles o Le Dieu du Carnage ac fe gafodd ei llwyfannu yng Nghaernarfon a Chaerdydd llynedd pan werthwyd pob tocyn.
Nawr bydd cyfle i bobl ei gweld eto wrth i’r cynhyrchiad fyd ar daith drwy Gymru rhwng Tachwedd 2 a Thachwedd 30.
Mae’r ddrama yn canolbwyntio ar ddau bâr o rieni sy’n cwrdd i drafod ymddygiad eu plant gan fod plentyn un ohonynt wedi brifo plentyn y llall mewn parc.
Mae’r cyfarfod yn cychwyn yn o gall, a’r pedwar yn ddigon bonheddig, ond wrth i amser fynd heibio mae ymddygiad y pedwar yn mynd yn fwyfwy plentynnaidd, a diolch i botel o Benderyn, ac yna mae chwarae’n troi’n chwerw.
Le Dieu du Carnage yw un o ddramâu mwyaf llwyddiannus y ddegawd ddiwethaf. Mae hi wedi derbyn llu o wobrau ac yn ôl yr awdur, Yasmina Reza, yr hyn sydd yn ei hysbrydoli i ysgrifennu yw’r awydd i archwilio’r bwlch sy’n bodoli rhwng ein hunaniaeth go iawn a’n wyneb cyhoeddus.
Fe enillodd y cynhyrchiad gan Bara Caws llynedd enwebiadau ar gyfer Gwobrau Beirniaid Theatr Cymru hefyd. Un ar gyfer y Cynhyrchiad Gorau yn yr iaith Gymraeg ac un arall i Rebecca Harries am yr Actores Orau. Enillodd Rebecca Harries y wobr am yr actores orau.
Meddai Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig Bara Caws, “Rydw i wrth fy modd fod Rebecca wedi cael cydnabyddiaeth am ei dawn – nid yn unig am Llanast! – ond am gorff o waith sylweddol a thrawiadol o amrywiol.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr am gael cyd-weithio gyda Rebecca, a gweddill y cast rhagorol.”