Richard Harrington yn Y Gwyll
RHYBUDD: Mae’r adolygiad yma’n sôn am gynnwys pennod gyntaf Y Gwyll. Peidiwch â’i ddarllen os nad ydych chi wedi gweld Y Gwyll hyd yn hyn.

Salem: mae wyneb y diafol i’w weld yn siôl yr hen fenyw. Dangosodd Mam-gu fe i fi pan o’n i’n fach, ges i lond twll o ofn.” – Mared Rhys.

Dywedodd un person ar Twitter tua phythefnos yn ôl: “Well bod Y Gwyll yn dda, dwi’m wedi darllen am ddim byd arall ers pum mlynedd.”

O’r diwedd, dyma’r cyfle cyntaf i weld y ddrama dditectif hir disgwyliedig.

Mae’r bennod yn dechrau gyda golygfa o Richard Harrington yn rhedeg  ar hyd clogwyn cyn cyrraedd carafán ac yfed dŵr yn syth allan o botel, fel dyn go iawn. Mae’r cymeriad yn un adnabyddus i ni gyd fel plismon sy’n dda yn ei swydd ond yn brwydro gyda gwrthdaro mewnol.

Dyma ddiwrnod cyntaf y Ditectif Arolygydd Tom Mathias yn Aberystwyth ac mae ei gyfnod yng Ngheredigion yn dechrau gyda chlec wrth i’r tîm ymchwilio i ddiflaniad Helen Jenkins, dynes grefyddol 64 mlwydd oed.

Yn syth o’r olygfa gyntaf un mae dylanwad dramâu Sgandinafaidd, Wallander yn enwedig, yn amlwg. Mae o i’w weld yn y gwaith camera sy’n ysgubo ar draws y dirwedd anial, yn ystafell ymchwiliad tywyll, di-ffenestr yr heddlu  a hyd yn oed yn y Volvo mae Tom Mathias yn ei yrru – yr un Volvo a Wallander dwi’n tybio.

Ond yn fuan iawn mae elfennau Cymreig yn cael eu hychwanegu wrth i ni gyfarfod gweinidog, dod ar draws llun Salem wedi ei dorri ac yna wrth i’r ymchwiliad ein harwain i bentref anghysbell Pontarfynach, lle’r oedd Helen Jenkins yn rhedeg cartref i blant, a ble mae Mathias yn dod o hyd i’w chorff.

Wrth i’r ymchwiliad ddatblygu rydyn ni’n darganfod bod dau berson oedd yn arfer bod yn y cartref, Jenny James a Hywel Maybury, ar goll. Rydyn ni hefyd yn cyfarfod Catrin John, ffrind gorau Jenny James yn y cartref sydd nawr wedi creu bywyd newydd iddi hi ei hun, a’r cyn ofalwr Byron Rodgers.

Rydym ni’n sylweddoli’n fuan nad oedd Helen Jenkins yn hollol ddiniwed ei hun a’i bod hi’n ddynes greulon iawn. Ond beth ddigwyddodd yn y cartref sydd wedi arwain at ei llofruddiaeth?

A beth am y tîm o blismyn sydd yn gweithio gyda Mathias? Dydyn ni ddim yn cael llawer o gyfle i ddod i’w hadnabod nhw yn y bennod gyntaf ond, ar yr argraff gyntaf, maen nhw i’w gweld fel criw eithaf ifanc ar y cyfan – yn enwedig i gynnal  ymchwiliad llofruddiaeth.  Mae Lloyd Elis hefyd yn fy nharo i fel rhywun fyddai ofn ei gysgod ei hun heb sôn am lofrudd.

Y cymeriad mwyaf diddorol hyd yma ydi’r Prif Uwch-arolygydd Brian Prosser. Dyn amheus os welais i un erioed a phan ddywedodd Doctor Hadyn bod “pawb” yn y parti, roedd hynny’n fwy amheus fyth. Pwy yw “pawb” a beth maen nhw’n ei wneud yn y partis bondigrybwyll yma ar ddyddiau Sul?

Mae’r bennod yn dod i ben gyda Mathias yn dod o hyd i Hywel Maybury yn atig yr hen gartref plant a Jenny James yn dod i’r orsaf heddlu i gyfaddef lladd Helen  Jenkins.

Gydag awr arall i fynd nos Iau, fe allwn ni fod yn weddol sicr nad Jenny James wnaeth lofruddio Helen Jenkins ond pwy yw’r llofrudd? Oes gennych chi ddamcaniaeth? Beth yw arwyddocâd ystafell rhif 10 yn y gwesty ac a wnaeth y bennod gyntaf gwrdd â’ch disgwyliadau chi? Rhannwch eich sylwadau isod.

Nodiadau Gêm yfed Y Gwyll: Cymrwch ddiod pob tro mae rhywun yn dweud diafol, cythraul neu devil.

–          Mae nain Mared Rhys yn swnio fel cês. Mae’n amlwg ei bod hi wedi bod yn treulio amser yn rhoi “llond twll o ofn” iddi yn ei phlentyndod gyda straeon am y diafol fel hanes Salem a’r hanes tu ôl i enw Pontarfynach.

–          Dwi erioed wedi gweld y fath esgeulustod gan gyngor sir. Gwerthu’r cartref plant gyda ffeiliau cyfrinachol dal yn yr adeilad? Gobeithio bydd yr ail stori’n canolbwyntio ar yr ymchwiliad cyhoeddus.

–          Oedd camerâu Super 8 dal yn cael eu defnyddio yn niwedd yr 80au a dechrau’r 90au?

–          Y gân ‘Helen Fwyn’ yn cael ei chwarae wrth i Mathias gyrraedd y cartref plant am y tro cyntaf. Cynnil fel gordd.