John Meirion Morris (Llun: Llinos Lanini)
Gwaith y cerflunydd John Meirion Morris fydd testun y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol Meirionnydd 2014.

Dyma’r tro cyntaf i’r Urdd osod testun penodol ar gyfer y fedal hon gan ei bod fel rheol yn gystadleuaeth agored.

Pwyllgor Cerdd Meirionnydd gafodd y syniad o osod testun ar gyfer y fedal, gan ddilyn trefn y prif wobrau eraill ar gyfer beirdd, llenorion a dramodwyr.

Yn ôl Iwan Wyn Parry, Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cerdd: “Rydym fel pwyllgor yn gweld hwn fel datblygiad hynod gyffrous sydd yn plethu a chymhathu celfyddyd.

“Trwy’r canrifoedd mae amrywiaeth o ddylanwadau wedi bodoli wrth i gerddoriaeth gael ei greu ac mae gwaith John Meirion Morris, sydd yn enedigol o Lanuwchllyn, yn sicr o ennyn diddordeb, edmygedd ac yn siŵr o ddylanwadu egin gerddorion i greu.

“Mae ystod ei waith mor amrywiol – o ddylanwadau y cerfluniau symbolaidd, crefyddol yn ystod ei gyfnod yn darlithio yn Ghana i’r ymchwil helaeth a wnaeth i gelfyddyd Geltaidd La Tene,” meddai Iwan Wyn Parry.

“Mae ganddo hefyd bortffolio eang o benddelweddau beirdd, llenorion a phobl amlwg Cymreig megis Gwenallt, Gerallt Lloyd Owen a Ray Gravell – a all yn eu hunain ddylanwadu a symbylu person ifanc i gyfansoddi.”

Mae John Meirion Morris yn gweld cyswllt byw rhwng cerdd a chelf, ond yn teimlo mai ysgogiad y dylai ei waith fod, nid testun llythrennol.

Dyddiad cau y gystadleuaeth ydi Mawrth 1, 2014.