Mae’r cyn-feddyg a gafwyd yn euog o achosi marwolaeth y canwr Michael Jackson wedi cael ei ryddhau o’r carchar.

Cafodd Conrad Murray, 60 oed, ei ryddhau o garchar yn Los Angeles fore heddiw.

Yn Nhachwedd 2011 cafodd cyn-feddyg personol Michael Jackson ei roi dan glo am bedair blynedd wedi ei gael yn euog o roi gorddos o anesthetig i’r canwr, gan arwain at ei farwolaeth ym Mehefin 2009.

Mae Conrad Murray yn apelio yn erbyn y rheithfarn.