Bydd cyfres newydd o’r rhaglen gerddoriaeth Y Lle: Ochr 1 yn dechrau ddydd Sul ar S4C – ond fydd hi ddim yn dychwelyd i’n sgriniau yn y modd traddodiadol.
Mae’r gyfres newydd, sydd wedi’i chynhyrchu gan Antena, am fod ar gael ar-lein ddydd Sul, dridiau cyn i S4C ei darlledu ar y teledu ar y nos Fercher.
Ac mae’n gam arloesol – yn wahanol i’r gwasanaeth Clic ble mae modd gwylio rhaglenni nôl sydd eisoes wedi bod ar y teledu, hon fydd y rhaglen gyntaf i S4C ei ddarlledu ar-lein gyntaf.
Ac mae disgwyl i’r drefn hon barhau trwy’r gyfres.
Darlledu’n newid
Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:
“Mae natur darlledu yn newid yn gyflym ac mae’n hanfodol ein bod ni’n addasu ac yn symud gyda’r newid hefyd,” meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.
“Mae eistedd i lawr i wylio’r teledu ar amser penodol yn prysur droi’n rhywbeth hen ffasiwn yng ngolwg rhai rhannau o’r gynulleidfa.
“Bydd yn ddiddorol gweld ymateb y gynulleidfa i’r newid a gweld wedyn a fydd y math yma o drefniant yn fwy addas i gynulleidfa iau Ochr 1, gan gofio fod ambell un ohonom dros hanner cant yn mwynhau’r gyfres sydd yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth amgen, roc a phop o bob cwr o Gymru.
“Mae’r amserlen draddodiadol yn dal i fod yn bwysig i gyfran fawr iawn o’n cynulleidfa wrth gwrs, ond mae S4C yn benderfynol o symud gyda’r oes ac addasu ein cynlluniau ni i gyd-fynd â dymuniadau’r gwylwyr.”
Ar y rhaglen gyntaf bydd y darn stiwdio a’r prif gyfweliad yn cael ei gynnal efo HMS Morris, gydag eitem ar leoliad efo Radio Rhydd (yn cynnwys Ceri Cunnington), yn ogystal â fideo newydd gan Plu.
Bydd modd gwylio’r rhaglen ar wefan Clic S4C o 9yh ymlaen ar nos Sul.