Rhiannon Williams
Rhiannon Williams sy’n adolygu’r ffilm sy’n addasiad o nofel Jojo Moyes…
Ymysg y ffilmiau am archarwyr a’r ymrafael rhwng da a drwg sydd yn y sinemâu ar hyn o bryd fe wyliais un oedd yn gwrthgyferbynnu â’r ffilmiau hyn, sef y ddrama ramantaidd Me Before You.
Mae’r ffilm wedi’i seilio ar nofel fwyaf adnabyddus Jojo Moyes o’r un teitl sy’n dilyn stori Louisa neu Lou Clark (Emilia Clarke – seren Game of Thrones), cymeriad lliwgar ac optimistaidd sy’n cael swydd fel gofalwr i Will Traynor (Sam Claflin – a ymddangosodd yn yr Hunger Games), dyn cefnog, sy’n cwadriplegig o ganlyniad i ddamwain feic modur.
Er eu bod yn perthyn i ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol mae perthynas unigryw yn datblygu rhyngddyn nhw sy’n arwain at gariad gan newid edrychiad y ddau ar y byd.
Cyniga’r ffilm chwa o awyr iach am ei bod wedi’i hysgrifennu a chyfarwyddo gan fenywod ac mae un o’r prif gymeriadau’n fenyw.
Eto, gwrthgyferbynna hyn â ffilmiau tebyg megis The Fault in Our Stars a The Notebook a gafodd eu cyfarwyddo gan ddynion, sydd hwyrach yn dangos bod Hollywood, o’r diwedd, yn symud at y cyfeiriad cywir o degwch rhwng y ddwy ryw yn y gweithle.
Gan nad wyf wedi darllen y llyfr (eto) gallaf feirniadu’r ffilm ar ei phen ei hun. Ceir cydbwysedd gwych rhwng y defnydd o hiwmor ac agweddau trasig trwyddi draw gan wneud y berthynas rhwng Lou ac Will yn hynod o gredadwy.
Er nad oes llawer o gynnwys gweledol yn y ffilm mae ystumiau wynebol y ddau brif gymeriad yn rhywbeth i glodfori. Un o olygfeydd mwyaf hudolus y ffilm yw pan mae Lou yn eistedd ar gôl Will yn ei gadair olwyn er mwyn dawnsio ag ef, ac wrth i’r camera ddilyn y ddau’n troelli, gwelwn weddill y parti’n pylu o’u hamgylch.
Bellach, mae Moyes wedi cyhoeddi ei bod hi’n bwriadu ysgrifennu dilyniant i’r nofel a ffilm o’r enw After You, sy’n newyddion arbennig ar ôl iddi dorri calonnau pawb sydd wedi darllen y stori.
Rhybudd: mae’r diweddglo yn cael ei drafod isod, felly peidiwch â darllen ymlaen os nad ydych am wybod beth sy’n digwydd.
Er hyn, mae’r ffilm wedi derbyn cryn dipyn o sylw am y rhesymau anghywir gan y gymuned anabl. Nid yw’r cariad rhwng y ddau’n ddigon i Will newid ei feddwl ynghylch hunanladdiad cymorthedig yr oedd yn dymuno ers dechrau’r ffilm ac felly erbyn clo’r ffilm mae Will yn dewis marw.
Does dim amheuaeth ei bod hi’n hen bryd i’r celfyddydau normaleiddio anabledd ond oherwydd y diweddglo a’r wedd Hollywoodaidd ar fywyd ac anabledd mae’r ffilm yn argyhoeddi pobl ei bod hi’n well dewis marw na byw bywyd gyda nam neu anabledd.
Yn ogystal, unwaith eto mae’r diwydiant ffilm wedi rhoi’r rôl i actor abl lle nad oes angen am nad yw’r ffilm yn canolbwyntio ar ddirywiad neu drawsnewidiad y cymeriad, megis y ffilm The Theory of Everything, gan ddiffinio cymeriad Will gan ei anabledd yn unig.
Fodd bynnag, anaml y gwelwn ffilmiau sy’n trafod ewthanasia heb sôn am ei drafod mewn modd mor sensitif ac ystyrlon, sydd eto’n gam mawr i Hollywood.
Er ei bod hi’n ffilm ddadleuol cyniga ochr ffres ar y stori ramantus draddodiadol. Yr unig gyngor sydd gennyf yw i chi ei gweld wrth wisgo masgara waterproof â bocs o hancesi wrth eich ochr.
Marc: 6/10