Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu yn 1999
Mae enwau’r chwech sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel wedi cael eu cyhoeddi.

Cafodd y rhestr fer ei llunio gan banel o bump o beirniaid – Ann Atkinson, Owain Llwyd, Gwennan Gibbard, Meinir Siencyn ac Ann Fychan – ac fe ddewison nhw’r chwe chystadleuydd mwyaf addawol dan 25 oed.

Y chwech yw Steffan Hughes (Aelwyd y Waun Ddyfal), Rhydian Jenkins (Aelod Unigol Cylch Ogwr), Bethan Elin (Aelwyd Talwrn), Jams Coleman (Tu Allan i Gymru), Meilir Jones (Aelwyd yr Ynys) a Lleucu Parri (Ysgol Gyfun Plasmawr).

Enillwyr y cystadlaethau canlynol oedd yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth:

  • Unawd Alaw Werin 19 – 25 oed
  • Unawd Cerdd Dant 19 – 25 oed
  • Unawd 19 – 25 oed
  • Unawd Offerynnol 19 – 25 oed
  • Llefaru Unigol 19 – 25 oed
  • Cyflwyniad Theatrig 19 – 25 oed
  • Unawd Allan o Sioe Gerdd 19 – 25 oed
  • Dawns Unigol i Fechgyn 14 – 25 oed
  • Dawns Unigol i Ferched 14 – 25 oed

Bydd y chwech sydd wedi dod i’r brig yn cystadlu ar noson arbennig yn y Stiwt, Rhosllanerchrugog nos Sul, Hydref 16.

Bydd yr enillydd yn cael gwobr ariannol o £4,000 i’w ddefnyddio i ddatblygu eu doniau ar gyfer y dyfodol.

Yr ysgoloriaeth

Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu yn 1999 gyda’r bwriad o feithrin talent rhai o berfformwyr ifanc gorau Cymru, ac mae’n cysylltu enw’r enillydd gyda’r canwr byd enwog.

Dywedodd y panel o feirniaid fod “safon y cystadlu yn arbennig o dda”.

“Rydym yn ffyddiog y bydd noson anhygoel yn ein disgyl yn y Stiwt yn Rhos ac rydym yn edrych ymlaen i weld y chwech yn perfformio eto.”