Rhiannon Williams
Rhiannon Williams fu’n gwylio’r bennod arbennig o Sherlock: The Abominable Bride
Bron i bythefnos ar ôl darllediad cyntaf The Abominable Bride ar ddydd Calan rydw i, o’r diwedd, wedi dod i’r casgliad, pe na fyddai’r teithio trwy amser wedi cael ei gynnwys ynddi, mi fyddai’r bennod wedi bod yn arbennig.
Na, dim Doctor Who sy’n gyfrifol am y neidio sydyn rhwng y gorffennol Fictorianaidd (1895) a’r presennol, ond mind palace cymeriad Sherlock Holmes (Benedict Cumberbatch), a welwyd fel elfen ddiangen sy’n cael ei defnyddio i bwysleisio mawredd ei feddwl yn unig.
Dechreuwn trwy wylio stori arswydus a gothig am ysbryd priodferch ond sylweddolwn erbyn diwedd y rhaglen ein bod wedi gwylio math o ddilyniant i’r ffilmiau Inception ac Adaptation.
Fodd bynnag, cofiwn mai cymhlethdod cynhenid y rhaglen yw un o brif atyniadau cyffrous y gyfres a does dim amheuaeth eich bod chi angen canolbwyntio’n ofalus i ddeall clyfrwch y bennod hon.
Troeon yn y gynffon
Does dim syndod bod y BBC wedi dal yn ôl rhag cyhoeddi unrhyw beth ynghylch y bennod gan fod y troeon yng nghynffon hir y bennod yn ddiddiwedd gan gynnwys tewdra annisgwyl ond gwreiddiol Mycroft (Mark Gatiss), mwstas Molly (Louise Brealey) a dychweliad iasol Moriarty (Andrew Scott) i enwi ond rhai.
Yn gyffelyb i’r penodau blaenorol ceir yr un antur draddodiadol wrth i Sherlock geisio datrys marwolaeth annaturiol ac amhosibl yr olwg mewn amser byr iawn.
Eto, gwelwn berthynas agos Holmes a Watson (Martin Freeman) yn datblygu ymhellach, gan ymylu ar fflyrtan ar adegau, sy’n ategu at hiwmor unigryw’r gyfres.
Rhy glyfar
Yn fy nhyb i roedd Mark Gatiss a Steven Moffat yn trio bod yn rhy glyfar y tro yma, hwyrach er mwyn cuddio’r ffaith nad oedd unrhyw beth yn cael ei ddatrys yn yr awr a hanner, gan wneud y bennod yn ddibwys.
Pwrpas y bennod, felly, yw cadarnhau bod Moriarty yn ei fedd o hyd (rhywbeth a oedd ychydig yn amlwg gan gofio ei fod wedi saethu ei hun yn ei ben erbyn diwedd yr ail gyfres).
Ers y darllediad cyntaf mae agwedd ffeministaidd y bennod wedi cael ei beirniadu’n llym a negyddol iawn gan nifer.
Serch hynny, rhaid cofio ei bod hi’n anodd cyfleu llais credadwy menyw heb fod dros ben llestri pan mai dynion yw’r awduron a phrif gymeriadau.
Yn yr un modd, er bod y plot ychydig gorgyrhaeddol mewn mannau roedd awyrgylch yr oes Fictorianaidd, y set, dillad ac effeithiau technegol yn adleisio storïau gwreiddiol Sherlock gan Arthur Conan Doyle i’r dim.
Gan obeithio pe byddai pennod arall yn cael ei chreu yn benodol ar gyfer gŵyl y Nadolig, eu bod yn canolbwyntio ar un amser yn unig, boed yn y gorffennol neu’r presennol.
Mae rhaglen Sherlock: The Abonimable Bride ar gae i’w gwylio o hyd ar BBC iPlayer.