David Bowie yn 1995
Yn dilyn y newyddion am farwolaeth y canwr pop arloesol, David Bowie, yn 69 oed, mae teyrngedau lu o bedwar ban byd wedi cael eu rhoi iddo.

Yn ôl y cyflwynydd radio, Richard Rees, oedd yn amlwg iawn ar y sîn gerddoriaeth yn y 70au a’r 80au, ei ‘wreiddioldeb a’i arloesedd’ oedd mor arbennig amdano fe.

“Fe wnaeth e newid cymaint o bethau,” meddai wrth golwg360.

“Roedd e’n berfformiwr, yn gyfansoddwr, yn actor mor wreiddiol ac mor wahanol, fe wnaeth e newid agwedd pobol at lot o bethau.”

Cyfeiriodd at gyfnod Ziggy Stardust, persona adnabyddus David Bowie yn y 70au, gan “wneud” i bobol y cyfnod feddwl am agweddau trawsrywiol, oedd yn “heriol” iawn yn ystod y cyfnod hwnnw.

“O flaen ei amser”

“Dyn ymhell o flaen ei amser” oedd David Bowie a oedd yn “canu pethau hollol wahanol, arallfydol i gymharu â sin bop eithaf traddodiadol y 70au” – dyna pam bod ei ganeuon mor berthnasol heddiw, yn ôl Richard Rees.

Roedd y canwr hefyd yn dangos amrywiaeth eang yn ei ganu, o gyfansoddi caneuon arallfydol, hollol wreiddiol i ganu cân Nadolig traddodiadol gyda’r canwr o America, Bing Crosby.

“Roedd cerddoriaeth Bowie yn rhyw fath o watermark mewn ffordd, a wnaeth ddiffinio cyfnod, a’r peth sy’n sicr yn aros mas yw ei arloesedd e.”

Dylanwad Bowie ar y SRG?

I’r canwr Geraint Lovgreen, roedd David Bowie wedi cael cryn dipyn o effaith ar y sin bop Brydeinig am ei “wreiddioldeb a’r ffordd oedd o wastad yn synnu rhywun efo beth oedd o’n neud nesa’.”

“Roedd o’n newid ei steil [cerddoriaeth] o hyd a byth yn ailadrodd ei hun. Doedd o ddim yn fodlon ail-wneud rhywbeth oedd wedi bod yn llwyddiannus, roedd o’n trio bod yn llwyddiannus eto efo rhywbeth arall,” meddai.

Ond yn ôl Geraint Lovgreen, ni chafodd David Bowie  cymaint o effaith ar gefn gwlad Cymru ar y dechrau ag oedd yn y dinasoedd mawr.

“Ro’n i’n byw yn y Drenewydd, ac yn ysgol, ella dim ond ryw dri neu bedwar ohonon ni oedd yn licio David Bowie achos oedd o’n wahanol, ac oedd y rhan fwyaf o bobol jyst yn meddwl ei fod e’n weird.

“Fedra’i ddim meddwl ei fod o wedi [dylanwadu ar sin roc Gymraeg y cyfnod] ond hwyrach dylanwadu ar bobol fysa’n dod nes ymlaen, ac roedd o’n ddylanwad ar bethau gwahanol iawn iddo fo ei hun.”

Ychwanegodd Geraint Lovgreen bod David Bowie wedi cael cryn dipyn o ddylanwad ar bync Cymraeg a ddaeth yn yr 80au, er mor “wahanol” oedd y ddau.

‘Act olaf’

Fe gyhoeddodd David Bowie record newydd yr wythnos ddiwethaf, a neb yn gwybod ei fod e’n sâl, ac roedd hynny’n gweddu ei gymeriad yn berffaith, yn ôl Geraint Lovgreen.

“Roedd o wastad yn synnu rhywun efo beth oedd o’n ei wneud nesa’, ac mae’r farwolaeth yma mor David Bowie, mae’n anhygoel,” meddai.

“Mae o fel ei act olaf un mewn ffordd.”

‘Perfformiwr dyfeisgar’

Dywedodd Cleif Harpwood, o Edward H Dafis gynt, wrth golwg360, mai David Bowie oedd un o berfformwyr mwyaf ‘dyfeisgar’ a ‘chofiadwy’ y Deyrnas Unedig, os nad y byd.

“O tua diwedd y 60au ymlaen, fe darodd ar Space Oddity, ac o fanna mewn gwirionedd dechreuodd popeth iddo fe.

“Roedd e’n arbrofi hyd nes y diwedd ac roedd e wedi ymwneud â phob un genre gerddoriaeth fwy neu lai.

“Roedd e wedi bod trwy sawl cyfnod anodd gyda’i rhywioldeb ei hun ac fe lwyddodd i greu’r cymeriad un-rhyw, neu unigryw yma (Ziggy Stardust) a hwnna dwi’n meddwl dylanwadodd fwyaf ar bobol, doedd pobol heb weld rhywbeth cyffelyb… ac roedd hwnna’n apelio.”

O ran ei ddylanwad ar gerddoriaeth Gymraeg, roedd Cleif Harpwood o’r farn bod “ni’r Cymry yn sicr wedi benthyg ambell i beth” oddi wrtho.

Space Oddity yn ddylanwad ar VC10

“Dwi’n sôn amdano fe yn ‘Sneb yn Becso Dam’ oherwydd am flynyddoedd lawer, roedd gen i boster ohono fe fel Ziggy yn fy ystafell coleg, ac o’r poster yna y daeth y llinell (o’r gân Plentyn Unigrwydd), ‘Plentyn unigrwydd, does neb i’w ga’l/ Dim ond wyneb gwelw Bowie ar wal’.

“Hefyd naethon ni (Edward H) sawl peth yn ymwneud â’r gofod, am astronots ac am ryw themâu felly oedd yn amlwg yn ddylanwad ganddo fe.”

Cyfeiriodd hefyd at y lleisio yng nghân y band, VC10, oedd yn rhyw fath o ‘adlais’ o’r gân Space Oddity, gyda Dewi Pws “fel y capten yn gwneud cyhoeddiad i deithwyr y VC10”.

“Roedd e’n artist o ni’n ei barchu’n fawr.”

Stori: Mared Ifan