Lora Lewis
Lora Lewis sydd yn rhannu’i hargraffiadau hi yn dilyn pumed bennod y ddrama…

Wrth i’r pumed bennod gael ei darlledu neithiwr (ac yn bendant dyma’r gorau hyd yma), tydw i dal ddim agosach at ddatrys y cwestiwn.

Dw i’n teimlo fel ditectif, ydw, ond un reit sâl ar hyn o bryd. Pwy laddodd Simon? Ydych chi’n gallu dyfalu?

Jinx a’i acen

Digon cynnil oedd y wybodaeth gafodd ei chynnig ar ddechrau’r ail gyfres – ‘rhyw, twyll a throsedd’ – dyna’r oll. Ia, a hynny i gyd mewn diwrnod o waith.

Tipyn o sioc oedd gweld wyneb gwaedlyd Jinx druan yn glanio yn glewt ar y llawr dim ond munudau i mewn i’r bennod gyntaf (yn amlwg, roedd rhyw ran ohona’ i yn meddwl amdano fel y gog roeddwn i’n arfer ei garu ar Pobol y Cwm).

Doedd yr acen ddim yn argyhoeddi ar y cychwyn, ond wrth i’r penodau fynd yn eu blaen, roeddwn i’n dechrau dod i’w adnabod fel Simon Jones, y cymeriad mae bron pawb yn y gyfres yn ei gasáu – oni bai am Fran (weithiau).

Mae pawb yn gaeth i’w sefyllfa, a phawb rhywsut fel eu bod yn osgoi datrys unrhyw broblem. Mae pob unigolyn sy’n gweithio yn y swyddfa yn wynebu problemau, a’r rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud ag achosion anghyfreithlon. Does dim byd yn ddiflas na’n dawel yn eu bywydau yn y ddinas.

O’r bennod gyntaf, roeddwn i’n tybio mai am ei antics budr gyda Fran, gwraig ei ffrind, y cafodd Simon ei ladd, ond yn y bôn, gall bron iawn bob un o’r gweithwyr yn y swyddfa fod wedi ei ladd. Oni bai am Katie, fysa ganddi hi ddim y guts i’w daflu drwy’r ffenestr.

Twyll

Ai dyma yw gwreiddyn y broblem? Ai dyma sy’n gyrru’r stori ymlaen?

Roedd Simon yn twyllo ar ei wraig, Leslie, gyda Fran, gwraig Jeff, ei gyd-weithiwr a ffrind gorau o bosib.

Mae Elfyn yn twyllo ar Reg, a Reg yn twyllo ar Elfyn efo Martin, a oedd yn sioc enfawr gan fy mod i ‘di cymryd bod Martin yn ddyn sengl, cas ac yn bendant ddim yn hoyw.

Mae Charlie, cariad Katie, yn benderfynol o’i chadw hi yn ei grafangau (hegar!) er bod Alun yn amlwg dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi.

Er mwyn dial ar bawb a phopeth, mae Jeff a Leslie yn cael un prynhawn prysur … ond doeddwn i methu â pheidio sylwi ar wyneb Leslie, yn amlwg ddim yn rhy hoff o’r sefyllfa.

Mae Hazel yn twyllo ar ei gŵr sydd wedi’i garcharu am gyfnod gyda’i athro yoga sef gŵr Claire, ditectif yr achos (sôn am Claire, kitchen-envy! Waw!).

Pwy sy’ wir yn hapus? Mae pawb yn twyllo ar eu partneriaid, ac ar brydiau ‘dw i’n teimlo fod hynny fymryn yn ormod, ond ac eithrio hynny, mae adeiladwaith y stori yn anhygoel.

Cam-drin domestig

Mae stori Katie yn un sy’n bwysig iawn i’r gyfres, er nad ydy hi’n gymeriad canolog wrth ymdrin â marwolaeth Simon.

Pwnc sensitif iawn i’w drafod yn fy marn i, ond mae’r actorion yn gweithio gyda’i gilydd yn anhygoel i greu stori gredadwy. Druan ar Katie, a hithau’n ferch alluog, mae hi’n gwneud penderfyniadau twp.

Dim hanner call

Mae pawb yn seicopathiaid yn eu ffordd eu hunain. Ruth yn lladd ei mam, a Helen a’i hobsesiwn. Charlie. Hazel. Moment gwan Leslie yn y bath. Mae hyd yn oed dwy ochr i Alun.

Efallai fy mod i’n codi sawl dadl wrth ddweud hyn, ond ai Simon a Fran yw’r unig rai sydd wir yn ‘normal’? Oedd Simon yn haeddu cael ei ladd?

Falla’ mod i’n mynd o flaen gofid wrth ddweud hynny gan fod sawl pennod ar ôl, ond ar hyn o bryd ’dw i’n fwy hoff o Simon na neb arall.

Y gorau hyd yma

Ar ôl adeiladwaith araf y gyfres gyntaf, roeddwn i ’chydig yn bryderus wrth ddisgwyl am y gyfres hon.

Yn bendant, does dim dwywaith fod yr ail gyfres yn llawer gwell yn barod, gyda’r actorion, y sgript a lleoliad yn llawn haeddu canmoliaeth.

Dw i’n gobeithio daw diwedd cyffrous a chadarn i’r gyfres, a chyfres arall wedi hynny. Mae’r dramodwyr wedi gwneud campwaith gyda’r gyfres yma hyd yn hyn, take a bow!

Mae Lora Lewis yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac yn olygydd i bapur newydd y brifysgol, Y Llef.