Rhiannon Williams
Rhiannon Williams fu’n gwylio ffilm olaf y gyfres sydd wedi’i chyfarwyddo gan Francis Lawrence …

Pedair blynedd ers i ffilm gyntaf y gyfres lyfrau The Hunger Games gan Suzanne Collins gael ei rhyddhau mae’r rhan olaf, sydd gydag enw ychydig yn lletchwith The Hunger Games Mockingjay: Part 2, wedi cyrraedd y sinema (o’r diwedd).

Fel un sydd wedi darllen ac addoli’r tri llyfr mae fy meirniadaeth o’r ffilmiau blaenorol wedi bod yn un llym, er mod i’n deall ei bod hi’n anodd trawsnewid nofel i’r sgrin.

I’r rhai ohonoch sydd heb ddarllen y llyfrau ond yn dilyn y gyfres, cefndir bras y ffilm yw parhad chwyldro Panem yn erbyn y Capitol a’r Arlywydd Snow (Donald Sutherland).

(Gyda llaw, dw i’n cynghori unrhyw un sydd heb ddarllen na gweld y ffilmiau blaenorol i beidio gwario £7 i weld ffilm sydd ddim yn esbonio’r cefndir angenrheidiol – sydd ddim o reidrwydd yn rhywbeth gwael i ni’r superfans).

Brawychus o bosibl

Ar ôl dechreuad gweddol araf prif ganolbwynt y ffilm yw Katniss Everdeen (Jennifer Lawrence) yn mynd yn erbyn gorchmynion Coin (Julianne Moore), arweinydd y gwrthryfelwyr, a’i thaith hi â’i thîm o saith trwy’r Capitol, sydd nawr wedi troi mewn i’r ‘live arena’ ei hun, i blasty Snow i’w ladd.

Does dim syndod bod Snow yn troi’r digwyddiad mewn i fath arall o Hunger Games wrth iddo ddarlledu marwolaethau ffiaidd y gwrthryfelwyr i’r wlad.


Jennifer Lawrence, yr actores sy'n chwarae rhan Katniss Everdeen yng nghyfres Hunger Games (llun: Kurt Kulac/CC3.0)
Yr hyn sy’n gwneud y ffilm yn eithriadol o ddeniadol, ar wahân i actio anhygoel Jennifer Lawrence fel yr arwres Katniss, yw’r effeithiau technegol arbennig sy’n troi’r afreal i realiti.

Does dim amheuaeth eich bod yn cael eich trosglwyddo i’r byd dystopaidd yn enwedig yn y dilyniant o olygfeydd dirdynnol yn y garthfos ble mae Katniss, Peeta (Josh Hutcherson), Gale (Liam Hemsworth), Finnick (Sam Claflin) a gweddill y tîm yn ymladd am eu bywydau yn erbyn y muts.

Y rheswm mae’r ffilm mor hunllefus ar adegau yw achos bod y byd ofnadwy dyfodolaidd sy’n cael ei bortreadu yn un brawychus o bosibl.

Rhannu diangen

Camgymeriad mawr, yn union fel saga Harry Potter a Twilight, oedd rhannu’r llyfr olaf i ddwy ffilm.

Does dim digon o gynnwys ar ôl ac felly sail y ffilm yw saethiadau panoramig o ddistryw’r rhyfel a’r gwrthgyferbyniad rhwng tawelwch Katniss a bloeddiau’r rhyfel o’i chwmpas.

Yr unig beth allwn ni obeithio yw y bydd ffilm olaf The Maze Runner yn newid y drefn ddiangen o rannu’r llyfr olaf neu o leiaf yn gorffen gydag uchafbwynt.

Dw i’n deall mai’r prif reswm dros newid rhediad y ffilm o’i gymharu â’r llyfr yw marwolaeth drist y diweddar Philip Seymour Hoffman, a oedd yn chwarae cymeriad Plutarch.

Fodd bynnag, heblaw am rai golygfeydd diangen gyda Haymitch (Woody Harrelson) ac Effie (Elizabeth Banks), y cariad trionglog sy’n cael ei ddatblygu’n anghredadwy, a’r diweddglo anfoddhaol, mae’r llyfr yn cael ei gyfiawnhau i’r dim.

Marc – 7/10

Mae Rhiannon Williams yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.