Bydd Rodney ‘Talu Bils’ Evans yn un o brif berfformwyr gŵyl Llanast Llanrwst nos yfory. Bydd yn rhan o wledd o gerddoriaeth byw, cwis a gweithgareddau i blant yn y dref.
Fe ddaeth Rodney’n adnabyddus ar Facebook eleni ar ôl i fideos o’i ganeuon unigryw, gan gynnwys ‘Talu Bils’, gael eu rhannu’n eang.
Mae’r lein-yp cerddorol o gwmpas amryw o dafarndai Llanrwst hefyd yn cynnwys Yr Adar, Phalcons, Jacob Elwy, Jambyls, Lastigband, Cynefin, Robbie Savage Garden, a set DJ Miri Mawr.
Yn ystod y bore fe fydd adloniant i blant yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Conwy, tra bod yr adloniant nos yn dechrau gyda chwis ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ yng ngwesty Pen-y-Bryn.
Dim pryder am y tywydd
Dywedodd trefnwyr yr ŵyl eu bod yn hyderus na fyddai’r tywydd yn effeithio ar y digwyddiad, gyda’r gweithgareddau a’r gigiau yn cael eu cynnal dan do a llai o bryder bellach ynglŷn â llifogydd yn Llanrwst.
“Mae’r ŵyl yn bwysig iawn i economi’r ardal yn sicr,” meddai Esyllt Tudur o Fenter Iaith Conwy wrth Golwg360.
“Mi fydd o’n dda i gael pobl i mewn i’r dref achos dydi’r adeg yma cyn y Nadolig ddim fel arfer mor brysur â hynny i’r tafarndai.”