Hywel Williams
Ifan Morgan Jones sy’n trafod rhaglen y hanesydd a ddarllenwyd ar S4C ddydd Mawrth…
Dyma raglen anodd iawn ei gwylio, nid oherwydd y deunydd heriol, ond o ganlyniad i’r ffaith bod y golygu yn hynod o araf a chlogyrnaidd, ac mai un llais soniarus a geir drwyddi draw.
Nid trafodaeth ar ‘gymuned’ a geir yma mewn gwirionedd, fel y mae’r teitl yn ei awgrymu, ond ar genedlaetholdeb.
Yn nhyb Hywel Williams, byddai Cymru yn genedl llawer fwy llwyddiannus pe bai, wel, yn rhoi’r gorau i fod yn genedl. H.y. yn troi cefn ar y pethau plentynnaidd megis diwylliant sy’n ei gosod ar wahân i weddill y byd.
Diddorol oedd gwylio’r rhaglen hon yn syth ar ôl darllen Pam na fu Cymru? gan Simon Brooks.
Yn y bôn mae dadansoddiad y ddau yn gymharol, sef bod Cymru yn wlad Ryddfrydol na arddelai genedlaetholdeb yn yr 19eg ganrif, cyn datblygu cenedlaetholdeb ethnig yn yr 20fed ganrif.
Ond tra bod Simon Brooks yn ystyried agwedd Cymry’r 19eg ganrif fel methiant, ac arwydd o ddiffyg hunan-barch ar eu rhan, mae Hywel Williams yn hiraethu am y dyddiau rheini.
Soniodd Simon Brooks yn lansiad ei gyfrol newydd yng Nghlynnog Fawr yr wythnos diwethaf bod y Gymru gyfoes yn debyg iawn i Gymru ail hanner yr 19eg ganrif.
Mae’r un agweddau Rhyddfrydol, neu efallai neo-Ryddfrydol erbyn hyn, ar droed. Efallai bod Hywel Williams yn profi ei bwynt.
Un o wendidau’r rhaglen hon yw ei fod mor ddibynnol ar ddeunydd o archif y Llyfrgell Genedlaethol wrth ddarlunio Cymru.
Os mai dadl Hywel Williams yw bod yr ymwybyddiaeth hon o genedlaetholdeb Cymreig yn bodoli yng Nghymru heddiw, dylid bod wedi defnyddio dyfyniadau a darluniau cyfoes.
Yr argraff a geir o weld darluniau a lleisiau o’r 50au yw mai ef ei hun yn unig sy’n parhau i gredu yn y Gymru ‘mytholegol’ hwn y mae’n son amdano.
Gwendid arall yw ei fod yn dewis cyfosod y deunydd hwn o’r archif gyda delweddau cyfoes o Lundain.
Y diben mae’n siŵr oedd dangos beth allai Cymru ymgeisio tuag ato petai’n troi cefn ar sosialaeth ac yn cofleidio neo-Ryddfrydiaeth.
Y broblem yw bod nifer o’r delweddau a ddewisir yn rai sy’n datgelu arwyddion o genedlaetholdeb Seisnig.
Hynny yw, nid cefnu ar ein hanes a’n diwylliant er mwyn bod yn ddinasyddion y byd fydden ni, ond wfftio cenedlaetholdeb ethnig Cymreig er mwyn cofleidio cenedlaetholdeb ‘sifig’ (h.y. ethnig) ‘Prydeinig’ (h.y. Seisnig).
Gwendid neo-Ryddfrydiaeth yw gwybod pris popeth ond gwerth dim byd. Anwybyddir y posibilrwydd bod iaith a diwylliant yn eu hunain yn gallu rhoi cysur a phleser i bobol Cymru – diwedd y gân yw’r geiniog wedi’r cwbl!